Betsan Powys
Newyddiadurwraig Cymreig yw Betsan Powys (ganwyd Awst 1965),[1] sydd yn olygydd BBC Radio Cymru ar hyn o bryd.
Betsan Powys | |
---|---|
Ganwyd | Awst 1965 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, blogiwr |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd yng Nghaerdydd ond symudodd y teulu i Fangor pan ddaeth ei thad, y gweinidog a darlledwr R. Alun Evans, yn bennaeth y BBC yno.[2] Graddiodd mewn Almaeneg a Drama o Brifysgol Aberystwyth cyn gwneud MLitt yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen.
Gyrfa
golyguYmunodd Powys â BBC Cymru fel newyddiadurwraig hyfforddedig ym 1989, cyn ymuno â'r ystafell newyddion yng Nghaerdydd fel gohebydd dwy-ieithog aml-gyfryngau. Symudodd i adrodd materion cyfoes ym 1994, gan adrodd fel gohebydd cudd.[3]
Dechreuodd Powys gyflwyno ar raglen Newyddion Cymraeg S4C, fel y prif ohebydd materion cyfoes Ewrop yn y gyfres Ewropa, ac ymunodd â Huw Edwards i gyflwyno rhaglenni arbennig yr etholiadau yn y Deyrnas Unedig. Daeth nôl o Lundain i Gaerdydd i weithio i BBC Cymru a magu ei phlant yn Gymraeg cyn ei phenodi'n Olygydd Gwleidyddol BBC Cymru yn 2006.[2]
Ar 1 Gorffennaf 2013, cychwynnodd Betsan ar ei swydd newydd fel Golygydd BBC Radio Cymru. Ar 12 Mehefin 2018 cyhoeddwyd y byddai'n gadael y gorfforaeth yn Hydref 2018.[4] Penodwyd ei olynydd, Rhuanedd Richards, y mis wedyn.[5]
Cychwynnodd fel cyflwynydd newydd Pawb a'i Farn ar 15 Gorffennaf 2020.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Manylion cyfarwyddwr Ty'r Cwmniau. Adalwyd ar 2 Chwefror 2016.
- ↑ 2.0 2.1 Holi ac ateb: Betsan Powys am "fynd amdani" (5 Gorffennaf 2013). Adalwyd ar 2 Chwefror 2016.
- ↑ Betsan Powys. BBC Question Time (2003-09-17).
- ↑ Betsan Powys yn gadael fel golygydd Radio Cymru , BBC Cymru Fyw, 12 Mehefin 2018. Cyrchwyd ar 25 Gorffennaf 2018.
- ↑ Penodi Rhuanedd Richards yn olygydd newydd Radio Cymru , BBC Cymru Fyw, 24 Gorffennaf 2018.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Blog Betsan
- (Saesneg) Blog Etholiad y Cynulliad 2007, Betsan Powys