Car a dorodd record cyflymder y byd yw Babs, gyda'r Cymro John Parry-Thomas wrth y llyw. Ar 27 a 28 Ebrill 1926, ar draeth Pentywyn, cyrhaeddodd y car gyflymder o dros 170 mya (270 km/a), record y byd, a safodd am flwyddyn gron.

Babs
Brasolwg
Ail enwChitty Bang Bang 4,
Higham Special
CynhyrchwydUnigryw (1926)
Cynlluniwyd ganJ. G. Parry-Thomas,
Clive Gallop
& Louis Zborowski
Corff a siasi
Math o gorffCar injan-blaen; olwynion agored
Pweru a gyriant
InjanLiberty L-12 V12
TrosglwyddiadGyriant-tsiaen

Hanes y car

golygu

Datblygwyd y car Higham Special gan Clive Gallop ar gyfer Cownt Zhorowski, gyrrwr ceir rasio arbennig. Am gyfnod, hwn oedd car cyflyma'r byd. Fe'i rasiwyd yn 'Brooklands' ger Pen-bre, Llanelli, gydag injan awyren Liberty 27,059cc, blwch gêr Benz a gyriant cadwyn. Roedd y Cownt wedi cylchdroi Brooklands ar 116.19 milltir yr awr ym 1924, a gyrwyd y car gan John Cobb hefyd. Ar ôl gyrfa lwyddiannus fel prif beiriannydd Moduron Leyland, daeth John Parry-Thomas yn yrrwr ceir rasio.

Bu farw'r Cownt ym Monza ym 1924. Prynodd Parry-Thomas y car am £125 o stad y Cownt a'i ailenwi'n 'Babs'. Ailadeiladodd Parry-Thomas y car efo 4 carbwradur Zenith, a phistonau a gynlluniwyd ganddo.

 
Babs y tu allan i Amgueddfa Wrecsam

Sawl record

golygu

Ar 27 Ebrill 1926, torrodd record y byd gyda chyflymder o dros 168.07 milltir, a 169.24 milltir yr awr dros gilomedr ar Draeth Pentywyn, a'r diwrnod nesaf, cyflymodd hyd at 170.62 a 171.09 milltir yr awr, i gyd yn cychwyn ar wib. Roedd yn gystadleuaeth frwdrydig rhwng Malcolm Campbell, Henry Seagrave a Parry Thomas i dorri'r record.

Aeth Parry Thomas yn ôl i Brooklands, a thorrodd "Babs" sawl record dosbarth ar 14 Hydref 1926 gyda chyflymder o dros 5 a 10 milltir, a 10 cilomedr.

Ar 3 Mawrth 1927, ceisiodd Parry-Thomas dorri'r record y byd ar Draeth Pentywyn eto, pan dorrodd cadwyn (ar gyflymder o 170 milltir yr awr) a bu farw Parry-Thomas. Claddwyd y car yn y tywod.

Yn 1969, cloddiwyd y car yn ôl i'r wyneb, a dechreuwyd y gwaith atgyweirio gan Owen Wyn-Owen, darlithydd peirianneg yng Ngholeg Technegol Bangor. Arddangosir 'Babs' yn Amgueddfa Gyflymdra Pentywyn.

Cyfeiriadau

golygu