Pentywyn

pentref yn Sir Gaerfyrddin

Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Pentywyn[1] (Saesneg: Pendine).[2] Saif ger y môr i'r de-orllewin o Sanclêr, a heb fod ymhell o'r ffin a Sir Benfro.

Pentywyn
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7472°N 4.5639°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000552 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSamuel Kurtz (Ceidwadwyr)
AS/auSimon Hart (Ceidwadwr)
Map

Mae dwy ran i'r pentref; yr hen bentref ar fryn o gwmpas yr eglwys a'r tai o gwmpas yr harbwr, sydd wedi tyfu'n ganolfan ymwelwyr ar raddfa fechan. Ar un adeg roedd Traeth Pentywyn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ymgeisiau i dorri record cyflymdra ar dir y byd. Rhwng 1924 a 1927 torrwyd y record bum gwaith yma gan Malcolm Campbell a'r Cymro J. G. Parry-Thomas. Lladdwyd Parry-Thomas yma yn 1927 wrth geisio torri'r record eto yn ei gar Babs. Claddwyd Babs yn y tywod ar ôl y ddamwain, ac wedi iddo gael ei adfer mae yn awr i'w weld yn yr amgueddfa yn y pentref.

Ers 2004, ni chaniateir ceir ar y traeth. Ond yn 2010 caniateir ceir i barcio ar y traeth yn ystod gwyliau ysgol ac ar benwythnosau. Mae nawr yn costio £3 i barcio car ar y traeth.[3]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[4] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[5]

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8][9]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Pentywyn (pob oed) (346)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Pentywyn) (61)
  
18.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Pentywyn) (208)
  
60.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Pentywyn) (58)
  
38.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%


Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 24 Chwefror 2022
  3. Erthygl BBC; Gwefan y BBC] adalwyd 23 Gorffennaf 2013
  4. Gwefan Senedd Cymru
  5. Gwefan Senedd y DU
  6. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  8. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  9. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Dolen allanol golygu