Bakasana (Y Garan)

safle mewn ioga

Mae Bakasana (Y Garan) yn asana o fewn i ioga modern fel ymarfer corff a Ioga Hatha lle cedwir y breichiau'n syth. Mae'r asana (neu osgo) Kakasana (Y Frân) yn hynod o debyg ond mae'r breichiau wedi'u plygu.[1] Asana cydbwyso yw'r ddau, gyda phwysau'r corff ar y breichiau, y garddyrnau a'r dwylo, sy'n solad ar y llawr.[2]

Bakasana
Enghraifft o'r canlynolasana Edit this on Wikidata
Mathasanas cydbwyso Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Geirdarddiad

golygu

Daw'r enwau ar yr asanas o'r geiriau Sansgrit बक baka ("garan") neu काक kāka ("brân"), a आसन āsana sy'n golygu "osgo, ystym" neu "siap y corff".[3][4]

 
Kakasana, Y Frân, gyda breichiau wedi eu plygu

Er bod gwahanol ysgolion ioga'n defnyddio gwahanol enwau ar gyfer y asanas hyn, mae Dharma Mittra yn bendant iawn, gan wahaniaethu rhwng y ddau. Mae'n nodi, fod gan y Kakasana freichiau byr (fel coesau'r frân) a bod gan y Bakasana freichiau syth, hir (fel y coesau'r garan).[5] Mae Light on Yoga gan BKS Iyengar (1966) yn disgrifio Bakasana'n unig, a hynny gyda breichiau syth.[6] Yn Ioga Sivananda, mae Llyfr Ioga Cyflawn Darluniadol Swami Vishnudevananda o 1960 yn disgrifio'r Kakasana yn unig, gyda breichiau wedi'u plygu.[7] Fodd bynnag, mae ymarferwyr Saesneg yn y gorllewin yn aml yn cam-gyfieithu'r Sansgrit "Bakasana" fel "Crow Pose".[2]Belling, Noa (20 Chwefror 2008). The Yoga Handbook. New Holland Publishers. t. 159. ISBN 978-1-84537-935-3.Belling, Noa (20 Chwefror 2008). The Yoga Handbook. New Holland Publishers. p. 159. ISBN 978-1-84537-935-3.</ref>[8]

Gellir dyddio'r asanas cydbwyso hyn i o leiaf y 17g pan gyhoeddwyd Hatha Ratnavali, lle mae Bakasana yn rhif 62 o'r 84 ystum y dywedir iddynt gael eu haddysgu gan Shiva.[9]

MaeSritattvanidhi o'r 19g hefyd yn disgrifio ac yn darlunio'r Kakasana a'r Bakasana.[10]

Amrywiadau

golygu

Mae'r amrywiadau'n cynnwys:

  • Parsva Bakasana (Garan ar ei Hochr) lle mae un glun yn gorwedd ar ochr uchaf y fraich gyferbyn a'r goes arall ar ben y goes gyntaf.[11][12]
  • Eka Pada Bakasana (Garan Ungoes) / Eka Pada Kakasana (Brân Ungoes) lle mae un goes yn aros yn Bakasana tra bod y llall yn ymestyn yn syth yn ôl.[13]

Llyfryddiaeth

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Crane Pose". Yoga Journal. Cyrchwyd 9 April 2011.
  2. 2.0 2.1 Belling, Noa (20 Chwefror 2008). The Yoga Handbook. New Holland Publishers. t. 159. ISBN 978-1-84537-935-3.
  3. Sinha, S. C. (1996). Dictionary of Philosophy. Anmol Publications. t. 18. ISBN 978-81-7041-293-9.
  4. Kingsland, Kevin; Kingsland, Venika (1976). Complete Hatha Yoga. Arco. t. 121. ISBN 978-0-668-03958-1.
  5. Mittra, Dharma (21 Mawrth 2003). Asanas: 608 Yoga Postures. New World Library. ISBN 978-1-57731-402-8. Cyrchwyd 25 Mehefin 2011.
  6. Iyengar, B. K. S. (1987) [1966]. Light on Yoga. New York: Schocken Books. tt. 315–317. ISBN 0-8052-0610-8.
  7. Vishnu-devananda, Swami (1988) [1960]. The Complete Illustrated Book of Yoga. Three Rivers Press. t. plate 110. ISBN 0-517-88431-3.
  8. Long, Ray (August 2009). The Key Muscles of Yoga: The Scientific Keys, Volume 1. Greenleaf Books. t. 230. ISBN 978-1-60743-238-8. Cyrchwyd 9 April 2011.
  9. Srinivasa, Narinder (2002). Gharote, M. L.; Devnath, Parimal; Jha, Vijay Kant (gol.). Hatha Ratnavali Srinivasayogi | A Treatise On Hathayoga (arg. 1st). Lonavla, India: The Lonavla Yoga Institute. tt. 98–122 asanas listed, Figures of asanas in unnumbered pages between pages 153 and 154, asanas named but not described in text listed on pages 157–159. ISBN 81-901176-96.
  10. Sjoman, Norman E. (1999). The Yoga Tradition of the Mysore Palace. Abhinav Publications. tt. 73–74, plate 5 (poses 27 and 30). ISBN 81-7017-389-2.
  11. "Side Crane Pose". Yoga Journal. Cyrchwyd 2011-04-09.
  12. Stearn, Jess (1965). Yoga, Youth, and Reincarnation. Doubleday. t. 348. Cyrchwyd 9 April 2011.
  13. Hewitt, James (1990). Complete Yoga Book. Schocken Books. t. 357.[dolen farw]