Mudiad ac athroniaeth fyd-eang sy'n haeru dylai unigolion lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol bod yn falch o'u cyfeiriadedd rhywiol ac hunaniaeth ryweddol yw balchder hoyw neu falchder LHDT. Gweithir eiriolwyr balchder hoyw dros "hawliau a buddion" cyfartal ar gyfer pobl LHDT.[1][2][3] Mae tri phrif rhagosodiad gan y mudiad: dylai pobl fod yn falch o'u cyfeiriadedd rhywiol a'u hunaniaeth ryweddol, taw anrheg yw amrywiaeth rhywiol, a bod cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth ryweddol yn reddfol ac ni allent gael eu newid yn fwriadol.[4] Yn aml, defnyddir y talfyriadau "balchder hoyw" a "balchder" fel ymadroddion sy'n cynnwys holl unigolion yn y cymunedau LHDT.

Balchder hoyw
Mathmudiad cymdeithasol Edit this on Wikidata
Llinell flaen gorymdaith balchder hoyw ym Mharis, Ffrainc, ym Mehefin 2005

Defnyddir y gair "balchder" fel gair sy'n golygu'r gwrthwyneb i gywilydd, sydd wedi cael ei ddefnyddio er mwyn gorthrymu a rheoli pobl LHDT ar hyd yr oesau. Yn y cyd-destun hwn, mae balchder yn dynodi hapusrwydd a boddhad yr unigolyn o ran pwy ydynt ac ar ran y gymuned yn ei chyfanrwydd. Dechreuodd yr holl fudiad "balchder" modern ar ôl Terfysgoedd Stonewall ym 1969. Yn hytrach nag ildio i gyrchoedd anghyfansoddiadol Heddlu Efrog Newydd, dechreuodd y bobl hoyw mewn bariau lleol ymladd yn ôl. Er ei fod yn sefyllfa treisgar, creodd deimlad o falchder ymysg y gymuned cudd hwn a chafodd y digwyddiad lawer o gyhoeddusrwydd. O'r orymdaith flynyddol a ddathlodd dyddiad terfysgoedd Stonewall, dechreuodd fudiad cenedlaethol newydd. Erbyn heddiw, mae nifer o wledydd ledled y byd yn dathlu balchder LHDT. Mae'r mudiad balchder wedi hybu materion LHDT drwy lobïo gwleidyddion, cofrestru etholwyr a chynyddu ymwybyddiaeth pobl o faterion sy'n bwysig i'r gymuned LHDT. Mqe ymgyrchwyr LHDT yn brwydro am "hawliau a budd-daliadau" cyfartal ar gyfer pobl LHDT.

Cynhelir gorymdeithiau i ddathlu balchder hoyw ar draws y byd. Mae symbolau balchder LHDT yn cynnwys y faner enfys, y symbol Groeg lambda, a'r trionglau pinc a du a adferwyd o'u cyn-ddefnydd fel bathodynnau mewn gwersylloedd crynhoi Natsïaidd.[5]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Pride celebrated worldwide. www.pridesource.com. Adalwyd ar 22 Tachwedd, 2007.
  2. (Saesneg) GAY PRIDE IN EUROPE LOOKS GLOBALLY. direland.typepad.com. Adalwyd ar 22 Tachwedd, 2007.
  3. (Saesneg) Lesbian Gay Bisexual Transgender Equality -an Issue for us All. www.ucu.org.uk. Adalwyd ar 22 Tachwedd, 2007.
  4. (Saesneg) Gay and Lesbian History Month ( PDF). www.bates.ctc.edu. Adalwyd ar 22 Tachwedd, 2007.
  5. (Saesneg) Symbols of the Gay, Lesbian, Bisexual, and Transgender Movements. www.lambda.org. Adalwyd ar 22 Tachwedd, 2007.
  Eginyn erthygl sydd uchod am faterion lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu drawsryweddol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Chwiliwch am balchder hoyw
yn Wiciadur.