Balchder Abertawe

Gŵyl balchder lesbiaid a hoywon ydy Balchder Abertawe a gynhelir yn ninas Abertawe, De Cymru. Cynhaliwyd yr ŵyl gyntaf ar Gae Lacrosse, ym Mharc Singleton ar y 28ain o Fehefin, 2009. Mynychodd dros 3,000 o bobl safle'r ŵyl,[1] lle gwelwyd cantorion a pherfformwyr drag yn difyrru'r dorf. Ymysg y perfformwyr, roedd y band Scooch a'r gantores Kelly Llorena. Defnyddiwyd y diwrnod hefyd i godi arian ac ymwybyddiaeth i'r elusen HIV ac AIDS, Terrence Higgins Trust.

Balchder Abertawe
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad blynyddol, gŵyl, pride parade Edit this on Wikidata
RhanbarthAbertawe Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.swanseapride.co.uk/ Edit this on Wikidata
Balchder Abertawe ym Mharc Singleton

Cynhaliwyd gŵyl 2010 ar 26 Mehefin[2] a mynychodd ychydig dros 3,000 o bobl y digwyddiad. Ymhlith y cantorion a ymddangosodd ar lwyfan oedd Anthony Costa o'r grŵp pop Blue a'r gantores Rozalla. Cafwyd perfformiad hefyd o ganeuon o'r sioe gerdd "Rent".

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. South Wales Evening Post 28-06-2009 (Saesneg). Adalwyd ar 28-06-2009
  2. "Gwefan Pink Paper". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-14. Cyrchwyd 2010-07-15. Adalwyd ar 15-07-2010
  Eginyn erthygl sydd uchod am faterion lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu drawsryweddol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato