Bancio a chyllid Cymru
Mae diwydiannau bancio a chyllid Cymru yn cynnwys y Banc datblygu Cymru.
Banciau cenedlaethol golygu
Mae Banc Datblygu Cymru yn fanc buddsoddi a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae'n buddsoddi mewn busnesau, yn enwedig busnesau newydd drwy ddarparu cyfalaf twf.[1]
Mae Banc Cambria yn fanc cymunedol Cymraeg arfaethedig sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.[2]
Banciau eraill yng Nghymru golygu
Mae Hodge Bank wed'i enwi ar ôl Syr Julian Hodge. yw Ffurfiwyd y banc ym 1987 fel Banc Julian Hodge, ac mae ei bencadlys yng Nghaerdydd, Cymru.
Cymdeithasau adeiladu golygu
Mae Cymdeithas Adeiladu Abertawe yn gymdeithas adeiladu gydfuddiannol annibynnol wedi'i lleoli yn Abertawe, Cymru . Mae'n aelod o Gymdeithas y Cymdeithasau Adeiladu.[3]
Cymdeithas Adeiladu'r Principality yw cymdeithas adeiladu mwyaf Cymru, gyda'i bencadlys yng Nghaerdydd. Mae gan y banc asedau o £10bn.[4]
Mae
Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy yn gymdeithas adeiladu Gymreig, sydd â'i phrif swyddfa yng Nghasnewydd. Mae'r Gymdeithas yn darparu amrywiaeth o gynnyrch morgeisi a chynilo. Mae ystod eang o wasanaethau ategol, gan gynnwys yswiriant, cynllunio ariannol, gwasanaethau cyfreithiol a chynlluniau angladd hefyd yn cael eu darparu gan nifer o gwmnïau trydydd parti eraill.
Yswiriant golygu
Cwmni gwasanaethau ariannol Cymreig yw Admiral Group plc sydd â'i bencadlys yng Nghaerdydd, Cymru. Wedi'i restru ar Gyfnewidfa Stoc Llundain, mae'n rhan o Fynegai FTSE 100, ac yn marchnata brandiau yswiriant cerbydau Admiral, Bell, Elephant, Diamond a Veygo, yn ogystal â lansio'r gwasanaethau cymharu prisiau Confused.com a Compare.com.[5] Mae'r grŵp yn cyflogi mwy na 10,000 o bobl ar draws ei frandiau.[6]
Mae Thomas Carroll Group plc yn ddarparwr Cymreig o yswiriant busnes a phersonol, rheolaeth ariannol, iechyd a diogelwch a gwasanaethau ymgynghori cyfraith cyflogaeth.[7]
Cyfeiriadau golygu
- ↑ "Who we are | Development Bank of Wales". developmentbank.wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-06-26.
- ↑ "Banc Cambria | Monmouthshire Building Society". www.monbs.com. Cyrchwyd 2022-06-26.
- ↑ "Building Societies Yearbook 2020/21". Building Societies Association. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-07-30. Cyrchwyd 14 May 2021.
- ↑ https://www.principality.co.uk/en/About-Us/Media-Centre/20130731-Principality-grows-to-sixth-largest-building-society-in-the-UK.aspx [dolen marw]
- ↑ Treanor, Jill (2015-05-13). "Admiral insurance founder to step down after 25 years". The Guardian. Cyrchwyd 2019-07-16.
- ↑ "Our Story". Admiral jobs (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-10-22.
- ↑ "About Thomas Carroll Group plc | Thomas Carroll, South Wales". Thomascarroll.co.uk. 2014-06-20. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-19. Cyrchwyd 2015-04-23.