Cyfnewidfa Stoc Llundain
Mae Cyfnewidfa Stoc Llundain (Saesneg: London Stock Exchange) yn un o gyfnewidfeydd stoc fwya'r byd, ac yn rhestru llawer o gwmnïau tramorol yn ogystal â rhai o'r Deyrnas Unedig. Cafodd ei sefydlu ym 1801, ac ers Gorffennaf 2004, mae wedi ei lleoli yn Sgwâr Paternoster, Llundain, ger Cadeirlan Sant Paul.
Enghraifft o'r canlynol | cyfnewidfa stoc |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1698 |
Perchennog | Cyfnewidfa Stoc Llundain (Grŵp) |
Gweithredwr | Cyfnewidfa Stoc Llundain (Grŵp) |
Rhiant sefydliad | Cyfnewidfa Stoc Llundain (Grŵp) |
Ffurf gyfreithiol | cwmni cyfyngedig cyhoeddus |
Pencadlys | Dinas Llundain, Llundain |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | https://www.londonstockexchange.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rhennir y Gyfnewidfa yn dair marchnad: y Brif Farchnad, y Farchnad Fuddsoddi Amgen (Alternative Investment Market neu AIM), a EDX London, sy'n ymwneud â deilliadau ecwiti (equity derivatives).
Dolen allanol
golygu- (Saesneg) Cyfnewidfa Stoc Llundain