Baner Brasil

baner

Mabwysiadwyd baner Brasil ar 12 Mai 1992. Mae'r sêr yn cynrychioli gwahanol daleithiau Brasil. Dyma'r fersiwn gyfredol o'r faner sydd wedi gweld sawl mân newid dros y degawdau - prin byddai'r gwyliwr lleyg yn gweld y gwahaniaethau o'r rhai blaenorol.

Baner Brasil
Baner Brasil
Y taleithiau yn y cytser
Y taleithiau yn y cytser

Mabwysiadwyd y dyluniad wreiddiol, gyda 21 seren, ar 19 Tachwedd 1889. Cynyddwyd nifer y sêr i 22 yn 1960, i 23 yn 1968 ac i 27 yn 1992. Y cyfrannau gyfredol ar gyfer siâp y faner yw 7:10.

O 15 Tachwedd i 19 Tachwedd 1889, defnyddiwyd y faner weriniaethol gyntaf fel y faner genedlaethol - dyma oedd y cyfnod pan symudodd y wlad o fod yn Ymerodraeth i fod yn Weriniaeth.

Mae naner gyfredol Gwerinaieth Brasil wedi ei seilio ar faner gynharach Ymerodraeth Brasil gan addasu'n fras ond cadw'r un lliw a siâp. Roedd y gwyrdd yn y fersiwn Ymerodraethol yn cynrychioli Tŷ Braganza, Pedro I, Ymerawdwr gyntaf Brasil, tra bod y melyn yn cynrychioli Tŷ Habsburg ei wraig, yr Ymerodraethes Maria Leopoldina.[1] Dyluniwyd y faner gan Raimundo Teixeira Mendes. Daeth y cylch glas gyda sêr bum-bwynt gwyn i ddisodli arfbais Ymerodraeth Brasil gyda'r sêr yn cynrychioli taleithiau'r wlad gan ddiweddaru ac ychwanegu fel bod angen. Ysbrydolwyd yr arwyddair Ordem e Progresso gan arwyddair bositifaidd Auguste Comte: "L'amour pour principe et l'ordre pour sylfaen; le progrès pour but" ("Caru fel egwyddor a threfn fel sail; cynnydd fel y nod").[2] Defnyddiwyd sêr ar y faner ymerodraethol er mwyn dynodi nifer y taleithiau - fel a gwneir ar faner yr UDA a sawl baner arall, bellach.

Oriel Baner Hanesyddol Brasil

golygu

Protocol

golygu

Dim ond yn llorweddol y gellir chwifio baner Brasil. 'Diwrnod y Faner' yw 19 Tachwedd. Dyna pryd y llosgir han faneri sydd wedi eu treilio wrth chwifio y tu allan i swyddfeydd neu adeiladau sifil a chenedlaethol. Rhaid eu llosgi mewn canolfan filwrol.

Baneri Swyddogol Eraill

golygu

Sêr baner Brasil

golygu
 
Dosbarthiad Sêr ar faner Brasil

Fel sawl gwlad arall, mae Brasil yn defnyddio sêr i gynrychioli taleithiau neu siroedd mewnol y wlad ar ei baner. Yn wahanol i bob gwlad arall mae gan leoliad a maint y sêr ystyr neu symboliaeth wrth eu lleoli ar y faner.

Mae'r cylch canolog yn cynrychioli'r awyr dros Rio de Janeiro (prifddinas y wlad ar y pryd) am 8.30 a.m. bore bore 15 Tachwedd 1889, dyddiad cyhoeddi'r Weriniaeth. Mae'r 27 seren yn cyfateb i'r cytserau Procyon (α Canis Minoris), Canis Major, Canopus (α Carinae), Spica (α Virginis), Hydra, Crux, Sigma Octantis (σ Octantis, Seren y Pole De), Triangulum Australe Scorpius. Mae pob un o'r 26 seren yn cynrychioli talaith y Ffederasiwn ac mae'r 27ain seren yn cynrychioli'r Ardal Ffederal.

Mae'r band crwm yn cynrychioli llinell y cyhydedd, ac mae'r arwyddair cenedlaethol yn ymddangos arno: "Ordem e Progresso" ("trefn a datblygiad"). Mae'r cefndir gwyrdd a'r rhombws melyn yn cynrychioli'r adnoddau coedwig a mwynau.

Sêr - Cynrychiolaeth Taleithiau

golygu

Mae nifer y sêr yn gallu amrywio gyda cynnydd (neu leihâd) yn nifer taleithiau Brasil. Caent eu dosbarthu yn ôl gwahanol cytser sydd yn y ffurfafen. Dyma'r sêr sy'n cynrychioli taleithiau Brasil (ac eithrio Sigma Octantis sy'n cynrychioli'r Ardal Ffederal):

Talaith Seren Cytser Maint
(1=largest)
Talaith
creu
Seren
ychwanegu
Amazonas Alpha Canis Minoris (Procyon) Canis Minor, y Ci Bach 1 1889 1889
Mato Grosso Alpha Canis Majoris (Sirius) Canis Major, y Ci Mawr 1 1889 1889
Amapá Beta Canis Majoris (Mirzam) Canis Major, y Ci Mawr 2 1991 1992
Rondônia Gamma Canis Majoris (Muliphen) Canis Major, y Ci Mawr 4 1982 1992
Roraima Delta Canis Majoris (Wezen) Canis Major, y Ci Mawr 2 1991 1992
Tocantins Epsilon Canis Majoris (Adhara) Canis Major, y Ci Mawr 3 1989 1992
Pará Alpha Virginis (Spica) Virgo, y Gwiryf 1 1889 1889
Piauí Alpha Scorpii (Antares) Scorpius, y Scorpion 1 1889 1889
Maranhão Beta Scorpii (Graffias) Scorpius, y Scorpion 3 1889 1889
Ceará Epsilon Scorpii (Larawag)[4] Scorpius, y Scorpion 2 1889 1889
Alagoas Theta Scorpii (Sargas) Scorpius, y Scorpion 2 1889 1889
Sergipe Iota Scorpii Scorpius, the Scorpion 3 1889 1889
Paraíba Kappa Scorpii Scorpius, y Scorpion 3 1889 1889
Rio Grande do Norte Lambda Scorpii (Shaula) Scorpius, y Scorpion 2 1889 1889
Pernambuco Mu Scorpii (Xamidimura & Pipirima)[4] Scorpius, y Scorpion 3 1889 1889
Mato Grosso do Sul Alpha Hydrae (Alphard) Hydra, y Sarff Dŵr 2 1979[note] 1960[note]
Acre Gamma Hydrae Hydra, y Sarff Dŵr 3 1962 1968
São Paulo (talaith) Alpha Crucis Crux, Croes y De 1 1889 1889
Rio de Janeiro (talaith) Beta Crucis (Mimosa) Crux, Croes y De 2 1889 1889
Bahia Gamma Crucis (Gacrux) Crux, Croes y De 2 1889 1889
Minas Gerais Delta Crucis (Imai)[5] Crux, Croes y De 3 1889 1889
Espírito Santo Epsilon Crucis (Ginan[4]) Crux, Croes y De 4 1889 1889
Rio Grande do Sul Alpha Trianguli Australis (Atria) Triangulum Australe, Triongl y De 2 1889 1889
Santa Catarina Beta Trianguli Australis Triangulum Australe, Triongl y De 3 1889 1889
Paraná (talaith) Gamma Trianguli Australis Triangulum Australe, Triongl y De 3 1889 1889
Goiás Alpha Carinae (Canopus) Carina, the Keel of Argo 1 1889 1889
Distrito Federal (Brasil) Sigma Octantis (Polaris Australis) Octans, the Octant 5 1889[note] 1889

Gweler hefyd

golygu

Gweler hefyd Baner Cymuned Gwledydd yr Iaith Portiwgaleg y mae Brasil yn aelod ohoni.

Cyfeiriadau

golygu
  1. The World Factbook: Brazil – Flag description Archifwyd 2015-12-22 yn y Peiriant Wayback CIA. Cyrchwyd 8 Hydref 2010.
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-03. Cyrchwyd 2019-01-25.
  3. Ni ddefnyddiwyd y faner yma erioed, amcanir y dyluniad gan faner Teyrnas Unedig Portiwgal, Brasil a'r Algarf.
  4. 4.0 4.1 4.2 "Naming Stars". IAU.org. Cyrchwyd 16 Rhagfyr 2017.
  5. "IAU Catalog of Star Names". International Astronomical Union. Cyrchwyd 17 Medi 2018.

Dolenni allanol

golygu