Baner Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin

Baner Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin, un o dri tiriogaeth a deg talaith Canada

Baner Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin, neu Baner y Northwest Territories yw baner is-genedlaethol Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin, un o Daleithiau a Thiriogaethau Canada. Fe'i mabwysiadwyd yn 1969 gan Gynulliad Deddfwriaethol Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin.

Baner Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin
Enghraifft o'r canlynolbaner endid gweinyddol o fewn un wlad Edit this on Wikidata
Lliw/iauglas, gwyn, coch, gwyrdd, aur Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1969 Edit this on Wikidata
GenreCanadian pale, charged flag Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Baner Cwmni Bae Hudson

golygu
 
Baner Cwmni Bae Hudson

Nid oedd gan Diriogaethau'r Gogledd-orllewin ei faner ei hun yn ei hanes cynnar, ond roedd baner Cwmni Bae Hudson yn parhau i gael ei defnyddio yng nghaerau, storfeydd a sefydliadau eraill y cwmni hwnnw.[1] Crëwyd Cynulliad Deddfwriaethol y NWT ym 1951.

Baner gyfredol

golygu
 
Baner y Tiriogaethau yn cyhwfan yn ystod Gemau Haf Canada 2017

Dewiswyd baner swyddogol gyntaf Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin gan bwyllgor arbennig o Gynulliad Deddfwriaethol Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin ym 1969. Adolygodd y pwyllgor geisiadau o ornest ledled Canada. Enillydd y gystadleuaeth oedd Robert Bessant o Margaret, Manitoba.[2]

Mae'r faner yn cynnwys maes glas, ac arno mae'r Pal Canadaidd ("Canadian Pale" yw'r term am streipen wen yn cymryd hanner lled y faner fel sydd ar faner genedlaethol Canada), ac yn y canol, y darian o arfbais Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin. Mae'r glas yn cynrychioli dyfroedd toreithiog Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin, tra bod y gwyn yn cynrychioli eira a rhew.[2]

Mae dau banel glas yn cynrychioli nifer o afonydd a llynnoedd Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin. Mae'r rhan wen, sy'n cynrychioli rhew ac eira, yn hafal o ran arwynebedd i'r 2 banel glas gyda'i gilydd. Mae'r Darian diriogaethol wedi'i ganoli yn yr adran wen. Mae rhan wen y Darian, gyda llinell las donnog yn ei rhannu, yn cynrychioli Cefnfor yr Arctig a Tramwyfa'r Gogledd Orllewin. Mae llinell letraws, sy'n cynrychioli llinell y goeden, yn rhannu'r rhan isaf yn adran wyrdd a choch gyda gwyrdd yn symbol o'r coed a choch yn symbol o'r twndra. Mae'r bariau aur yn yr adran werdd a'r llwynog gwyn yn yr adran goch yn cynrychioli'r toreth o fwynau a ffwr y seiliwyd hanes a ffyniant Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin arnynt.

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Diriogaethau'r Gogledd-orllewin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.