Baner yr Ariannin
Mabwysiadwyd baner yr Ariannin yn ôl y gyfraith ar 27 Chwefror 1812. Mae'r faner yn cynnwys tri band llorweddol o faint cyfartal. Mae'r ddau fand allanol yn las ac mae'r un canolog yn wyn, gyda'r Sol de Mayo (haul mis Mai) yn y canol. Bu sawl man addasiad i'r faner yn ystod ei hoes fel baner genedlaethol yr Ariannin.
Enghraifft o'r canlynol | baner cenedlaethol |
---|---|
Crëwr | Manuel Belgrano |
Lliw/iau | glas yr awyr, gwyn, melyn |
Dechrau/Sefydlu | 27 Chwefror 1812 |
Genre | horizontal triband |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y cymesuredd swyddogol yw 5:8 neu 9:14
Hanes
golyguCrëwyd y faner gan Manuel Belgrano, yn unol â chreu cocâd yr Ariannin, ac fe'i codwyd gyntaf yn ninas Rosario ar 27 Chwefror 27 1812, yn ystod Rhyfel Annibyniaeth Ariannin. Adeiladwyd Cofeb y Faner Genedlaethol yn ddiweddarach ar y safle. Ni gymeradwywyd y cynllun gan y Triumvirate Cyntaf, ond yn Asamblea del Año XIII (Cynhadledd yn 1813 i drafod dyfodol Gweriniaeth Rio de la Plata, taleithiau Wrwgwái a rhannau o'r Ariannin a Bolifia oedd wedi gwrthryfel o lywodraeth Sbaen) cytunwyd i'w chanitau fel baner rhyfel. Bu'n rhaid aros nes Cyngres Tucumán iddo ddod yn faner genedlaethol yn 1816. Ychwanegwyd haul melyn Mai i'r ganol yn 1818.
Sol de Mayo
golyguYng nghanol y band gwyn mae arwyddlun o'r Haul (Sol de Mayo, symbol o ddwyfrydedd brodorol) a greodd, yn ôl traddodiad, yn 1812 gan y teulu deallusol, diweddarach, Manuel Belgrano (mab a anwyd yn Liguria Unglia, y cyfenw cyflawn yw Belgrano-Peri) a ysbrydolwyd gan edrych tuag at yr awyr tra oedd ar lan afon Paraná yn llifo, lle mae dinas bresennol Rosario yn sefyll.
Mae arwyddlun yr haul yn eicon bwysig i'r Arianninwyr, ac ymddangosodd hefyd ar fersiynau blaenorol y faner.
Bandera de Ornato
golyguYn ogystal â'r faner swyddogol (Bandera Oficial de Ceremonia) gyda'r Sol de Mayo, ceir hefyd faner sifil heb yr haul. Enw'r faner yma yw'r Bandera de Ornato (baner ornate??) sydd yr un cynllun ond heb yr haul. Fe'i hystyrir hefyd yn faner swyddogol ac yn gwbl gynrychioliadol o'r genedl.
Dylanwad ar Faneri Eraill America Ladin
golyguDefnyddiodd y privateer Louis-Michel Aury faner yr Ariannin fel model ar gyfer ei faner glas-gwyn-glas at wladwriaeth annibynnol canolbarth America a grewyd yn 1818 yn Isla de Providencia, ynys oddi ar arfordir Nicaragua. Bodolodd y wladwriaeth yma nes tua 1821 cyn i wlad newydd Gran Colombia (Columbia Fawr) gymryd rheolaeth o'r ynysoedd. Ychydig yn hwyrach yn 1823 defnyddiwyd y faner yma unwaith eto fel model ar gyfer baner Taleithiau Unedig Canol America,[1][2][3] sef, cyd-ffederasiwn o wladwriaethau cyfredol Guatemala, Honduras, El Salvador, Nicaragua a Costa Rica yng Nghanolbarth America, a fodolodd rhwng 1823 ac 1838. Ond wedi dadfeiliad yr Undeb yma, daeth y pum talaith yn wladwriaethau annibynnol arwahân. Serch hynny, hyd heddiw mae pob un o'r cyn-daleithiau unedig yma, heblaw Costa Rica, yn chwifio baner glas-gwyn-glas streipiog. Mae gan Faner Costa Rica streipen goch wedi yn gorwedd ar yr un wen, er mwyn cynnwys lliwiau Baner Ffrainc.
Bu i faner yr Ariannin hefyd ysbrydoli baner gyfredol Wrwgwái a Paraguay a hefyd dyluniad baner Periw ar un adeg.
Costa Rica | El Salvador | Gwatemala | Hondwras | Nicaragua | Paragwai | Wrwgwái |
Baner Ariannin a Chymru
golyguChwifir baner answyddogol i gynrychioli cymuned Y Wladfa. Mae'r dyluniad yma yn cynnwys ffurf triband baner yr Ariannin ond gyda draig goch Gymreig baner Cymru yn hytrach nag haul Mai. Caiff y faner ei chwifio yn yr Ariannin a gan Gymru sy'n ymweld, megis mewn gêm rygbi rhwng yr Tîm rygbi cenedlaethol yr Ariannin a Tîm rygbi cenedlaethol Cymru ym Mehefin 2018.[4]
Lliwiau
golyguEr bod y dimensiynau a'r cyfrannau wedi'u diffinio'n dda bob amser (hyd yn oed gyda dimensiynau swyddogol: 0.9 × 1.4 metr, gyda'r bandiau lliw 30 cm yr un), mae lliwiau baner yr Ariannin yn aml yn destun dadl gan na bu benderfyniad manwl na thestun deddfwriaethol arni. Fodd bynnag, mae yna ddywediad poblogaidd iawn, sydd wedi'i ddryslyd â realiti, o leiaf ymhlith trigolion Buenos Aires. Dywedir bod gwir darddiad lliwiau baner Ariannin yn deillio o liwiau dillad y fam Iesu, y Madonna, yn ei delwedd draddodiadol sef, dwy lain glas golau a gwyn.
Mae'r deddfwr bob amser wedi diffinio y bandiau llorweddol, a oedd yn y dosbarthiad "Pantone" yn cyfateb i'r samplau hyn bob amser yn unig i ddiffinio gwyn a chelestial:
Lliw | RGB | HTML | HSV | Lab | CMYK | Esiampl |
---|---|---|---|---|---|---|
Glas ceruleo | 156, 196, 226 | #9BC4E2 | 201, 31, 89 | 77, -9, -20 | 37, 12, 3, 0 | |
Glas ceruleo (Websafe) | 153, 205, 255 | #99CCFF | 210, 40, 100 | 80, -3, -31 | 35, 10, 0, 0 | |
Gwyn | 255, 255, 255 | #FFFFFF | 0, 0, 100 | 100, 0, 0 | 0, 0, 0, 0 | |
Melyn-aur | 255, 205, 51 | #FFCD33 | 45, 80, 100 | 85, 8, 76 | 1, 19, 89, 0 | |
Du | 0, 0, 0 | #000000 | 0, 0, 0 | 0, 0, 0 | 75, 68, 67, 90 |
Baneri Hanesyddol
golygu-
Baner Manuel Belgrano o Rosario (1812)
-
Fersiwn arall o faner Manuel Belgrano (1812)
-
Baner swyddogol gyntaf Talaith Río de la Plata]] (1816)
-
Baner Talaith Unite del Río de la Plata (1818-1820)
-
Baner Artigas a ddefnyddiwyd yng nghyfnod y "Liga Federal" (1815-1820)
-
Baner Cyd-ffederasiwn yr Ariannin (1840)
-
Baner Ffederasiwn yr Ariannin (1860)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Felipe Pigna (2005). Los mitos de la Historia Argentina 2. Argentina: Grupo Editorial Planeta S.A.I.C. 2005. t. 92. ISBN 950-49-1342-3. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-11-13. Cyrchwyd 2019-01-23.
- ↑ "Belgrano dejó descendencia en América Central". aimdigital. August 5, 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-13. Cyrchwyd June 20, 2013.
- ↑ "El origen de las banderas de centroamérica". mdz online. June 20, 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-13. Cyrchwyd June 20, 2013.
- ↑ https://twitter.com/teithiautango/status/1005553002982395905