Erbyn heddiw, unigolyn sy’n ymddwyn mewn ffordd anwar neu anniwylliedig yw barbariad,[1] ond gynt cyfeiriai'r gair at ddiethryn nad oedd ei iaith neu ei ymddygiad yn cydymffurfio â normau cymdeithas y cafodd ei hun ynddi.

Barbariad
Pen barbariad (penddelw o 2g)
Enghraifft o'r canlynolsarhad ethnig Edit this on Wikidata
Mathpobl Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r term yn tarddu o'r gair Groeg βάρβαρος (barbaros; lluosog βάρβαροι, barbaroi). Yng Ngroeg yr Henfyd, defnyddiai'r Groegiaid y term i gyfeirio at y rhai nad oeddent yn siarad Groeg ac yn dilyn eu harferion. Weithiau roedden nhw'n hefyd yn defnyddio'r gair i gyfeirio at Roegiaid ar gyrion y byd Groeg a siaradai â thafodieithoedd rhyfedd.

Yn Rhufain hynafol, benthycodd y Rhufeiniaid y term a'i ddefnyddio i gyfeirio at lwythau nad oeddent yn Rhufeiniaid, megis y Berberiaid , Germaniaid , Celtiaid, Iberiaid, Thraciaid, Illyriaid a Sarmatiaid.

Cyfeiriadau golygu

  1.  barbariad. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 7 Gorffennaf 2023.