Thrace

(Ailgyfeiriad o Thraciaid)

Mae Thrace (Groeg: Θράκη, Thráki; Groeg Attig: Θρᾴκη Thrāíkē neu Θρῄκη Thrēíkē; Lladin: Thracia) yn ardal yn ne-ddwyrain Ewrop. Heddiw defnyddir Thrace am diriogaeth sy'n ymestyn dros dde-ddwyrain Bwlgaria (Gogledd Thrace), gogledd-ddwyrain Gwlad Groeg (Gorllewin Thrace), a rhan Ewropeaidd Twrci (Dwyrain Thrace). Gelwir y rhan yn Nhwrci hefyd yn "Rumeli". Roedd yr hen Thrace (y tiriogaethau lle roedd y Thraciaid yn byw) hefyd yn cynnwys rhan o ddwyrain Serbia a dwyrain Gweriniaeth Macedonia.

Thrace
Mathardal hanesyddol, hen wareiddiad, cenedl Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolBalcanau, Mediterranean Basin Edit this on Wikidata
GwladBwlgaria, Gwlad Groeg, Twrci Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaGroeg yr Henfyd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau42°N 26°E Edit this on Wikidata
Map
Ffiniau modern Thrace yng Ngwlad Groeg, Twrci a Bwlgaria

Roedd y Thraciaid wedi ei rhannu yn nifer o lwythau, heb fod wedi uno yn un wladwriaeth. Ymsefydlodd rhai Groegiaid yno o'r 6g CC. ymlaen, a chafodd diwylliant Groeg gryn ddylanwad yn yr ardal. Ymddangosodd rhai Thraciaid, megis Orpheus, ym mytholeg Roeg. Daeth yr ardal yn rhan o Ymerodraeth Persia wedi iddi gael ei choncro gan Darius Fawr yn 513 cC - 512 CC. Wedi i'r Persiaid encilio, rhannwyd Thrace yn dair rhan. Yn y 4g CC. concrwyd Thrace gan Philip II, brenin Macedon a bu dan reolaeth y Macedoniaid hyd nes i'r Rhufeiniaid eu gorchfygu ym Mrwydr Pydna yn 168 CC. a chymeryd meddiant o Thrace. Yn 279 CC, symudodd Celtiaid o Gâl i Thrace ac ymsefydlu yno hyd ddiwedd y ganrif.

Am gyfnod, roedd Thrace yn nifer o deyrnasoedd hanner-annibynnol dan reolaeth Rhufain, ond wedi cyfnod o derfysg daeth yn dalaith Rufeinig Thracia yn 46. Roedd y llengoedd yn Moesia yn gyfrifol am ddiogelwch y dalaith. Yn ddiweddarach bu ymladd am Thrace rhwng yr Ymerodraeth Fysantaidd a Bwlgaria, nes i'r Ymerodraeth Otomanaidd gymeryd meddiant o'r ardal yn y 14g a dal gafael arni am bum canrif.

Thraciaid enwog golygu

Llyfryddiaeth golygu

  • Hoddinott, R.F., The Thracians, 1981.
  • Ilieva, Sonya, Thracology, 2001