Penillion syml yn mynegi teimladau cyffredin megis serch, marwolaeth, natur neu ddoethineb yw'r hen benillion. Maent yn gerddi traddodiadol, dienw ond ceir yn eu plith lawer a luniwyd gan ferched. Ar fesur y triban, yr awdl-gywydd a’r mesur tri thrawiad. Y patrwm mwyaf cyffredin, fodd bynnag, yw’r pennill sy’n cynnwys pedair llinell, ac yn odli aabb.

Llenyddiaeth Gymraeg
Geraint ac Enid
Prif Erthygl Llenyddiaeth Gymraeg
Llenorion

550-1600 · 1600-heddiw

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Mae'n anodd dyddio'r hen benillion ond dechreuwyd eu cofnodi yn y llawysgrifau o'r 16G ymlaen. Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn dyddio i'r Cyfnod Modern Cynnar ac eraill yn amlwg yn llawer iawn hŷn.

Casgliadau golygu

Lewis Morris yn y 18g. oedd y cyntaf i amgyffred eu hapêl, a dechreuwyd eu casglu o dan ei ddylanwad ef a mudiad eisteddfodol y 19g. Mae dylanwad yr hen benillion i’w weld yn amlwg ar ei gerdd fwyaf adnabyddus ‘Caniad y gog i Feirionnydd’. Defnyddiwyd mesur yr hen bennill ynghyd â’r triban yn helaeth yn yr anterliwtiau a luniwyd yn ystod y 18G.

Ceir sawl casgliad ohonynt yn y llawysgrifau Cymreig. Ceir casgliadau pwysig mewn llyfrau printiedig cynnar yn ogystal, yn cynnwys y Flores Poetarum Britannicorum o gasgliad y Dr John Davies, Mallwyd (1710). Cyfeiria Huw Jones o Langwm atynt yn ei ragymadrodd i'r flodeugerdd Diddanwch Teuluaidd (1763). Cyhoeddodd Edward Jones (Bardd y Brenin) ddetholiad pwysig hefyd, yn ei Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards (1784/1794/1808). Casgliad pwysig arall yw'r hwnnw a geir yn y llyfr bychan Lloches Mwyneidd-dra gan Absalom Roberts, a gyhoedwyd yn Llanrwst yn 1828. Casglwyd a golygwyd detholiad cynrycholiadol o'r penillion hyn o sawl ffynhonnell gan T. H. Parry-Williams a'u cyhoeddi yn 1940.[1]

Mesur yr Hen Bennill golygu

Roedd eraill wedi gweld addaster y mesur cyn dyddiau Lewis Morris. Lluniwyd corff helaeth o gerddi ar fesur yr hen bennill o’r 16g. ymlaen gan feirdd megis Rhisiart Gwyn, y merthyr Catholig (m. 1584), Richard Hughes o Gefn Llanfair (m. 1618) a Morgan Llwyd, y piwritan (m. 1659). Yr un a gysylltir â'r mesur yn fwy na neb yw’r Ficer Prichard (m. 1644). Gwnaeth beth mentrus trwy arddel cyfrwng cyfarwydd, ond diurddas ddigon, wrth geisio annog ei blwyfolion yn Llanymddyfri i fyw bywydau bucheddol, ac wrth gyflwyno i’w sylw neges y Beibl, a hynny mewn modd cofiadwy.

Arddull golygu

Dyma rai enghreifftiau:

Rwyf yn ddall ac rwyf yn gweled,
Rwyf yn fyddar, rwyf yn clywed,
Rwyf yn glaf ac yn fy iechyd,
Rwyf yn fyw, yn farw hefyd.
Dacw 'ngariad yn y dyffryn:
Llygaid hwch a dannedd mochyn,
A dau droed fel gwadan arad',
Fel tylluan mae hi'n siarad.

Un o'r pethau cyntaf sy'n ein taro wrth eu darllen yw eu symylrwydd a'r ailadrodd sydd ynddynt. Mae'n debygol bod llawer o’r hen benillion yn wreiddiol yn rhan o gerddi hwy ond bod y penillion eraill wedi eu colli. Fe'u diogelwyd ar lafar trwy eu canu ac esbonia hyn yr enw ‘penillion telyn’ a thrwy eu hadrodd a'u traddodi o genhedlaeth i genhedlaeth. Maent yn dal yn boblogaidd hyd heddiw. Gwelwn ynddynt elfen o ffasiwn, a bod rhai patrymau poblogaidd yn treiddio drwy lawer o'r gwaith: mae nifer wedi eu llunio trwy efelychu penillion cynharach; egyr sawl un â geiriau megis ‘Mae gennyf …’, ‘Llawer gwaith …’, ‘Tri pheth …’.

Hen benillion modern golygu

Y Prifardd Gwynn ap Gwilym a gyfansoddodd y casglaid cyntaf o hen benillion modern o bwys pan ddaeth yn ail am y Goron yn Eisteddfod Aberteifi yn 1996; dyma un o'r penillion arobryn:

Aeth Cadeirydd y Cyngor i'r dafarn nos Lun,
Fe wariodd ein trethi ar fîr iddo'i hun!
Fe yfodd faes parcio a Neuadd y Dre
A stâd o dai cwonsil cyn gadael y lle!

Ysgrifennodd Mihangel Morgan hefyd:[2]

Ar lan y môr, mae tuniau rhydlyd
Ar lan y môr mae sbwriel hefyd,
Ar lan y môr mae bagiau plastig
Ac olew du ar garreg lithrig.

Cyfeiriadau golygu

  1. T. H. Parry-Williams (gol.), Hen Benillion (Y Clwb Llyfrau Cymreig, 1940; sawl argraffiad ers hynny).
  2. Sach Gysgu yn Llawn o Greision - MapD, Gwasg Carreg Gwalch, 2000

Dolen allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.