Mae'r Barwn Harlech o Harlech yn Sir Feirionnydd, yn deitl ym Mhendefigaeth Prydain Fawr.

Barwn 1af Harlech

Cefndir

golygu

Cafodd y farwniaeth ei greu ym 1876 ar gyfer y gwleidydd Ceidwadol John Ormsby-Gore

 
Neuadd Brogyntyn

Sedd y teulu yw Glyn Cywarch, ger Harlech. Bu cyn sedd y teulu yn Neuadd Brogyntyn, ger Croesoswallt, Swydd Amwythig gwerthodd y 6ed Barwn Brogyntyn yn y flwyddyn 2000[1].

Deiliaid y Teitl

golygu

Melltith teulu Harlech

golygu

Bu farw Sissie gwraig y 5ed barwn mewn damwain car ym 1967 a bu farw'r 5ed barwn mewn damwain car arall ym 1985. Cyflawnodd Julian Ormsby-Gore, etifedd tybiedig y 5ed Barwn, hunan laddiad ym 1974, bu farw Alice Ormsby-Gore, chwaer Julian o orddos o heroin ym 1995. Bu'r 6ed Barwn yn ddioddef o broblemau iechyd meddwl ac wedi cael triniaeth orfodol o dan y deddfau iechyd meddwl; mae hyn wedi arwain y papurau tabloid i gyfeirio at y farwniaeth fel teulu o dan felltith.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Fall of the house of Harlech yn The Telegraph, 22 Mehefin 2000 [1] adalwyd 9 Chwefror 2015
  2. Curse of Harlechs hits again yn Daily Mail, 17 Mawrth 2011 [2] adalwyd 9 Chwefror 2015