George Ormsby-Gore, 3ydd Barwn Harlech

gwleidydd (1855-1938)

Roedd George Ralph Charles Ormsby-Gore, 3ydd Barwn Harlech, KCB TD (21 Ionawr 18558 Mai 1938), yn filwr Prydeinig ac yn Aelod Seneddol Ceidwadol.

George Ormsby-Gore, 3ydd Barwn Harlech
Ganwyd21 Ionawr 1855 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw8 Mai 1938 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
TadWilliam Richard Ormsby-Gore Edit this on Wikidata
MamEmily Charlotte Harlech Ormsby-Gore Edit this on Wikidata
PriodMargaret Ethel Ormsby-Gore Edit this on Wikidata
PlantWilliam George Arthur Ormsby-Gore, 4ydd Barwn Harlech Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Cadlywydd Urdd y Baddon Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Roedd yr Arglwydd Harlech yn fab i William Richard Ormsby-Gore, 2il Farwn Harlech, a'r Arglwyddes Charlotte Emily Seymour.

Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Eton a'r Coleg Milwrol Brenhinol yn Sandhurst.

Priododd yr Arglwyddes Margaret Ethel Gordon, merch Charles Gordon, 10fed Ardalydd Huntly, ym 1881.

Gwasanaethodd yn y fyddin reolaidd fel Is-gapten yn y Gwarchodlu'r Coldstream o 1875 i 1883. Yn ddiweddarach gwasanaethodd yn y Shropshire Yeomanry, gan wasanaethu fel ei phennaeth milwrol gyda gradd Is-gyrnol o 1902 i 1907, ac fel Cyrnol Anrhydeddus o 1908. Roedd yn bennaeth ar y Gwarchodlu Cymreig cartref ym 1915 yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf[1]. Fe fu yn Gadeirydd Cymdeithas Fyddin Diriogaethol Swydd Amwythig.

Gyrfa wleidyddol

golygu

Cafodd ei ethol i Dŷ'r Cyffredin fel yr aelod Ceidwadol dros etholaeth Croesoswallt mewn isetholiad ym mis Mai 1901,[2] gan dal y sedd hyd 1904 pan olynodd ei dad fel y trydydd Barwn Harlech a gorfod rhoi'r gorau i'w sedd yn Nhŷ'r Cyffredin wrth ddod yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi.[3]

Gyrfa Gyhoeddus

golygu

Roedd yn Ynad Heddwch ar gyfer Swydd Leitrim a Swydd Amwythig ac yn Uchel Siryf Leitrim am y flwyddyn 1885. Fe fu hefyd yn gwasanaethu fel Arglwydd Raglaw Leitrim o 1904 i 1922 ac fel Arglwydd Raglaw Sir Feirionnydd o 1927 i 1938. Roedd yn Gwnstabl Castell Harlech o 1927 hyd ei farwolaeth. Bu'n yn Farchog o Urdd Sant Ioan o Jerwsalem, a dyfarnwyd iddo'r Tlws Tiriogaethol ym 1910 ac yna fe'i urddwyd yn Farchog Urdd y Baddon. O 1926 i 1938 bu'n gwasanaethu fel Uchel Feistr Taleithiol Seiri Rhyddion Swydd yr Amwythig.

Marwolaeth

golygu

Bu farw'r Arglwydd Harlech ym mis Mai 1938 yn 83 oed, a dilynwyd ef yn y farwniaeth gan ei fab William. Bu farw Arglwyddes Harlech ym 1950. Mae'r cwpl wedi eu claddu ym mynwent plwyf Selattyn ger Croesoswallt.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Apwyntiad Arglwydd Harlech yn y Llan, 2 Gorffennaf 1915 [1] adalwyd 9 Chwefror 2015
  2. The Oswestry Vacancy yn Cheshire Observer, 18 Mai 1901 [2] adalwyd 9 Chwefror 2015
  3. Marwolaeth Arglwydd Harlech yn Gwalia, 28 Mehefin 1904 [3] adalwyd 9 Chwefror 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Stanley Leighton
Aelod Seneddol Croesoswallt
19011904
Olynydd:
Allan Heywood Bright
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig
Rhagflaenydd:
William Richard Ormsby-Gore
Barwn Harlech
1904–1938
Olynydd:
William George Arthur Ormsby-Gore
Teitlau Anrhydeddus
Rhagflaenydd:
Syr Arthur Osmond Williams
Arglwydd Raglaw Sir Feirionnydd
1938-1957
Olynydd:
William George Arthur Ormsby-Gore