William Richard Ormsby-Gore, 2il Farwn Harlech
Roedd William Richard Ormsby-Gore, 2il Barwn Harlech (3 Mawrth 1819 – 26 Mehefin 1904), yn filwr ac Aelod Seneddol Prydeinig.
William Richard Ormsby-Gore, 2il Farwn Harlech | |
---|---|
Ganwyd | 3 Mawrth 1819 |
Bu farw | 26 Mehefin 1904 |
Dinasyddiaeth | Prydain Fawr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Tad | William Ormsby-Gore |
Mam | Mary Jane Ormsby-Gore |
Priod | Emily Charlotte Harlech Ormsby-Gore |
Plant | George Ormsby-Gore, Seymour Ormsby-Gore, Mary Georgina Ormsby-Gore, William Seymour Ormsby-Gore, Henry Ormsby-Gore, Emily Ormsby-Gore |
Cefndir
golyguRoedd William yn fab i William Ormsby-Gore a Mary Jane Ormsby. Fe'i haddysgwyd yng Ngholeg Eton.
Yn ugain oed ymunodd â 53 Catrawd y Troedfilwyr ym 1839 fe'i codwyd yn is-gapten ym 1841. Trosglwyddodd i gatrawd y Light Dragoons fel capten ym 1846 a chafodd ei ddyrchafu'n uwchgapten ym 1852.
Gyrfa wleidyddol
golyguYn etholiad cyffredinol 1841, etholwyd Ormsby-Gore yn ddiwrthwynebiad fel yr AS Geidwadol dros Swydd Sligo. Yn etholiad cyffredinol 1852 cafwyd cystadleuaeth ar gyfer y sedd a chafodd ei orchfygu gan ymgeisydd Rhyddfrydol a oedd yn tueddu at genedlaetholdeb. Dychwelodd i'r Senedd mewn isetholiad ar 17 Mai 1858 fel yr AS dros Swydd Leitrim, sedd a gadwodd hyd 1876.[1]
Prynodd Ormsby-Gore ystâd yn Derrycarne ger Dromod yn Swydd Leitrim. Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Leitrim am dymor 1857. Fe'i penodwyd yn Arglwydd Raglaw Swydd Leitrim ym 1878,[2] gan gadw'r swydd hyd ei farwolaeth.
Arglwydd Harlech
golyguAr 14 Ionawr 1876, codwyd John ei frawd i'r bendefigaeth fel y Barwn 1af Harlech. Gan nad oedd gan John etifedd gwrywaidd rhoddwyd y Barwniaeth iddo gyda hawl gweddilliad statudol yn enwi ei William yn etifedd tybiedig. Fel mae'n digwydd bu farw'r Barwn gyntaf o fewn 6 mis i'w ddyrchafiad,[3] ac ar 15 Mehefin 1876 daeth William Ormsby-Gore yn ail Farwn Harlech.
Penodwyd Harlech yn Ddirprwy Raglaw Swydd Amwythig ar 22 Chwefror 1882.
Priodas a phlant
golyguPriododd yr Arglwydd Harlech y Fonesig Emily Charlotte Seymour, merch yr Admiral Syr George Francis Seymour a chwaer Francis Hugh George Seymour, 5ed Ardalydd Hertford ym 1850. Bu iddynt chwech o blant.[1]
Marw
golyguBu farw'r Arglwydd Harlech yn ei gartref yn Llundain ar 26 Mehefin 1904 yn 85 mlwydd oed.[4] Rhoddwyd ei gorff i orwedd yng nghladdgell y teulu yn Eglwys Sylatyn [5]. Fe'i holynwyd i'r farwniaeth gan George, ei fab hynaf.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "MARWOLAETH ARGLWYDD HARLECH - Y Dydd". William Hughes. 1904-07-01. Cyrchwyd 2019-01-13.
- ↑ Edinburgh Gazzette rhif 8909 adalwyd 13 Ionawr 2019
- ↑ "MARWOLAETH ARGLWYDD HARLECH - Y Goleuad". John Davies. 1876-06-24. Cyrchwyd 2019-01-13.
- ↑ "Marwolaeth Arglwydd Harlech - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1904-06-30. Cyrchwyd 2019-01-13.
- ↑ "Angladd Arglwydd Harlech - Gwalia". Robert Williams. 1904-07-05. Cyrchwyd 2019-01-13.
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: John Ralph Ormsby-Gore |
Barwn Harlech 1876 – 1876 |
Olynydd: George Ormsby-Gore |