Bathodynnau gwersylloedd crynhoi'r Natsïaid
(Ailgyfeiriad o Bathodynnau gwersylloedd crynhoi'r Natsiaid)
Roedd bathodynnau gwersylloedd crynhoi'r Natsïaid, trionglau'n bennaf, yn rhan o system adnabyddiaeth yng ngwersylloedd crynhoi'r Natsiaid. Cawsant eu defnyddio er mwyn gwybod paham fod carcharor wedi cael ei roi yno.[1] Gwnaed y trionglau hyn o ffabrig a chawsant eu gwnïo ar siacedi a chrysau'r carcharorion. Roedd gan y bathodynnau cywilydd hyn ystyr penodol, yn dibynnu ar eu siâp a'u lliw.
System codio bathodynnau
golyguAmrywiai'r system fathodynnau o wersyll i wersyll, a thua diwedd yr Ail Ryfel Byd, lleihaodd y defnydd ohonynt. Mae'r disgrifiad canlynol yn seiliedig ar y system godio bathodynnau a ddefnyddiwyd cyn ac ar ddechrau'r rhyfel yng ngwersyll crynhoi Dachau. Yn y gwersyll hwnnw y gwelwyd y system godio fwyaf manwl.
Trionglau sengl
golygu- Trionglau coch — carcharorion gwleidyddol: comiwnyddion, undebwyr llafur, rhyddfrydwyr, democratiaid Rhyddfrydol, seiri rhyddion, anarchwyr.
- Triongl gwyrdd — troseddwyr "parhaus", (yno am ddedfrydau llai neu barôl).
- Triongl glas — llafurwyr o dramor a orfodwyd i weithio, mewnfudwyr.
- Triongl Pinc — troseddwyr rhywiol yn cynnwys dynion cyfunrywiol, treiswyr, Söoffilia a phedoffilia.[2]
- Triongl porffor — "Astudwyr y Beibl" (Tystion Jehovah)
- Triongl du — pobl a ystyriwyd yn anghymdeithasol a diog yn cynnwys
- Pobl Romani, er rhoddwyd triongl brown iddynt yn hwyrach.
- Pobl ag anawsterau meddyliol
- Pobl â salwch meddyliol
- Alcoholigion
- Y digartref
- Heddychwyr
- Lesbiaid
- Gwrthwynebwyr cydwybodol
- Puteiniaid[3][4]
- Rhai anarchwyr
- Aristocratiaid
- Triongl coch wyneb i waered — carcharor rhyfel gelyniaethus, ysbiwyr neu fradwr.
Tabl o fathodynnau'r gwersylloedd
golyguGelynion gwleidyddol | Troseddwr parhaus | Gweithwyr gorfodol o dramor neu fewnfudwyr | "Myfyrwyr y Beibl" (Tystion Jehovah) | Troseddwyr rhyw (yn cynnwys dynion cyfunrywiol) | "Pobl anghymdeithasol" | Roma (Sipsiwn) | |
Lliwiau elfennol | |||||||
Symbolau ar gyfer troseddwyr parhaus | |||||||
Carcharorion y system gosb (Almaeneg: Strafkompanie) | |||||||
Symbolau ar gyfer Iddewon |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Nazis Open Dachau Concentration Camp
- ↑ Plant, The Pink Triangle.
- ↑ Claudia Schoppmann: Nationalsozialistische Sexualpolitik und weibliche Homosexualität (Dissertation, FU Berlin, 1990.) Centaurus, Pfaffenweiler 1991 (revisited 2nd edition 1997). ISBN 3-89085-538-5
- ↑ Black triangle women.
Ffynonellau
golygu- Plant, Richard, The Pink Triangle: The Nazi War Against Homosexuals, Owl Books, 1988, ISBN 0-8050-0600-1.
- Camp badge chart at historyplace.com
Dolenni allanol
golygu- United States Holocaust Memorial Museum System ddosbarthu yng ngwersylloedd crynhoi y Natsiaid.
- Stars, triangles and markings – Llyfrgell Rhithiol Iddewig
- Gay Prisoners in Concentration Camps as Compared with Jehovah's Witnesses and Political Prisoners gan Ruediger Lautmann