Rembrandt
Arlunydd o'r Iseldiroedd oedd Rembrandt Harmenszoon van Rijn (15 Gorffennaf 1606 – 4 Hydref 1669). Mae'n cael ei gyfri fel un o arlunwyr ac ysgythrwr mwyaf Ewrop ac yn sicr y gorau yn hanes celf yr Iseldiroedd.[1] Cyfrannodd yn helaeth mewn cyfnod o gyfoeth a bwrlwm celfyddydol a elwir yn Oes Aur yr Iseldiroedd a oedd yn ddull cwbwl groes i'r traddodiad Baróc a oedd yn parhau drwy weddill Ewrop.
Rembrandt | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Rembrandt Harmenszoon van Rijn ![]() 15 Gorffennaf 1606 ![]() Leiden ![]() |
Bu farw | 4 Hydref 1669 ![]() Amsterdam ![]() |
Man preswyl | Rembrandthuis ![]() |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth yr Iseldiroedd ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | arlunydd, drafftsmon, gwneuthurwr printiau, casglwr celf, ysgythrwr, arlunydd graffig, casglwr, drafftsmon ![]() |
Adnabyddus am | Yr Wylfa Nos, Syndics of the Drapers' Guild, Y Briodferch Iddewig, Gwledd Belsassar, A Pedlar Selling Spectacles (Allegory of Sight) ![]() |
Arddull | portread (paentiad), paentiadau crefyddol, paentiad mytholegol, peintio genre, peintio hanesyddol, hunanbortread, celf tirlun, portread, tronie, bywyd llonydd, vanitas ![]() |
Mudiad | peintio Oes Aur yr Iseldiroedd ![]() |
Tad | Harmen Gerritszoon van Rijn ![]() |
Mam | Neeltje Willemsdr. Zuytbrouck ![]() |
Priod | Saskia van Uylenburgh ![]() |
Partner | Geertje Dircx, Hendrickje Stoffels ![]() |
Plant | Titus van Rijn, Cornelia van Rijn ![]() |
Llofnod | |
![]() |
BywydGolygu
Fe'i ganwyd yn Leiden. Fel arlunydd ifanc cafodd gryn lwyddiant yn paentio lluniau o bobl. Cafodd hefyd fywyd llawn trasiedi a chaledi ariannol, eto roedd ffrwyth ei lafur yn hynod boblogaidd drwy gydol ei oes a chanmolwyd ef gan y beirniaid a'r bobl gyffredin.[2] Am ugain mlynedd dysgodd eraill sut i beintio, gyda nifer o'i ddisgyblion yn arlunwyr enwog o'r Iseldiroedd.[3] Efallai mai lluniau o'i gyfoeswyr yw'r lluniau gorau a wnaeth, a golygfeydd o'r Beibl. Mae ei hunanbortreadau'n dweud llawer amdano ac yn ddarluniau gonest, di-duedd.[1]
Paentiad olew o Gatrina Hooghsaet yng Nghastell y Penrhyn, Gwynedd.
Mae ei luniau (olew ac ysgythriadau) yn brawf o'i wybodaeth am eiconnau clasurol, a addasodd i'w bwrpas ei hun; er enghraifft, mae ei olygfeydd beiblaidd yn dangos ei fod wedi'i drwytho yn y testun ei hun yn drwyadl ac yn aml yn adlewyrchu ei ymchwil i bryd a gwedd Iddewon Amsterdam.[4] Mae'r portradau hyn yn dangos ei empathi tuag at y ddynol ryw ac oherwydd hyn caiff ei alw'n aml yn "un o Broffwydi mwyaf gwareiddiad".[5]
Priododd Rembrandt ei wraig, Saskia van Uylenburgh, ym 1634. Bu farw Saskia ym 1642.
OrielGolygu
Hunan portreadauGolygu
Rembrand Ifanc, tua; 1628, yn 22 oed. Wrth ymarfer 'chiaroscuro'.
RijksmuseumHunan bortread, tua;1629;
Germanisches Nationalmuseum, NurembergHunan bortread, 1630, Nationalmuseum, Stockholm
Hunan bortread,
Fienna tua;1655
Amgueddfa Kunsthistorisches Museum, Fienna
Gwaith arallGolygu
Llabyddio Sant Steffan, 1625, Peintiad cyntaf Rembrandt yn 19 oed.[6]
Musée des Beaux-Arts de Lyon.Aristotle gyda phenddelw Homer, 1653
Amgueddfa Celf Metropolitan Efrog NewyddBathseba wrth ei Bath, 1654
Darluniau ac ysgythriadauGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ 1.0 1.1 Gombrich, p. 420.
- ↑ Gombrich, tud. 427.
- ↑ Clark 1969, tt. 203
- ↑ Clark 1969, tt. 203–204
- ↑ Clark 1969, tt. 205
- ↑ Starcky, Emmanuel (1990). Rembrandt. Hazan. t. 45. ISBN 2-85025-212-3.