Bedowiniaid
(Ailgyfeiriad o Bedowin)
Pobl Arabaidd nomadaidd sydd yn byw yn niffeithwch a lled-anialdiroedd Gogledd Affrica a'r Dwyrain Canol yw'r Bedowiniaid,[1] Bedawiaid[2] neu Bedwyniaid.[3] Cyrhaeddant Gogledd Affrica yn sgil gorchfygiad yr ardal gan yr Arabiaid yn yr 8g. Maent yn siarad Arabeg, gan gynnwys y dafodiaith Arabeg Fedowinaidd. Mae'r mwyafrif helaeth ohonynt yn dilyn Islam.
Enghraifft o'r canlynol | grŵp ethnig |
---|---|
Math | nomad, Arabiaid |
Mamiaith | Arabeg |
Label brodorol | بدو |
Poblogaeth | 22,000,000 |
Crefydd | Swnni, islam |
Enw brodorol | بدو |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cedwir defaid, geifr, camelod, ac weithiau gwartheg gan y Bedowiniaid. Mae'n bosib iddynt plannu cnydau ar hyd y llwybrau mudo a ddefnyddir amlaf, a'u cynaeafu ar y daith yn ôl. Maent yn masnachu â chymunedau sefydlog.
Mae pobl Baggara yn ne-orllewin Swdan yn disgyn o'r Bedowiniaid ac Affricanwyr croenddu.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Bedowin. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 27 Gorffennaf 2018.
- ↑ Bedawiad. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 27 Gorffennaf 2018.
- ↑ Geiriadur yr Academi, "Bedouin".
- ↑ Jamie Stokes, Anthony Gorman ac Andrew Newman, Encyclopedia of the Peoples of Africa and the Middle East (Efrog Newydd: Infobase, 2009), t. 105.