Mae Beinn Damh yn gopa mynydd a geir ar y daith o Applecross i Achnasheen yn Ucheldir yr Alban; cyfeiriad grid NG892502. Saif rhwng Loch Torridon a Glen Carron, 25 kilometr i'r gogledd-ogledd-ddwyrain o Kyle of Lochalsh. Ceir carnedd ar y copa. Fe'i gelwir yn Corbett gan ei fod yn 11 metr yn rhy fyr i fod yn Munro.

Beinn Damh
Mathmynydd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolNorthwest Highlands Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Uwch y môr903 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau57.49335°N 5.51673°W Edit this on Wikidata
Cod OSNG8926550189 Edit this on Wikidata
Amlygrwydd518 metr Edit this on Wikidata
Map

Dosberthir copaon yr Alban yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Corbett a HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Ailfesurwyd uchder y copa hwn ddiwethaf ar 28 Hydref 2001.

Cerddwyr

golygu

Y man cychwyn fel arfer ydy o West Loch Torridon ymhentref Torridon ar yr A896, cyfesurynnau NG887541gan ddilyn Allt Coire Roill am tua kilometr gan basio rhaeadr 30m. Yn y fforch, mae'r llwybr sy'n arwain i'r dde yn eich tywys i'r copa.

Gweler hefyd

golygu

Dolennau allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu