Beirniadaeth cerddoriaeth
Yr arfer o ysgrifennu am nodweddion esthetaidd cerddoriaeth a phwyso a mesur gwerth cyfansoddiadau a pherfformiadau yw beirniadaeth cerddoriaeth. Mae'r maes hwn yn cynnwys astudiaethau ysgolheigaidd yn ogystal ag adolygiadau poblogaidd a gyhoeddir mewn papurau newydd a chylchgronau neu ddarlledir ar y radio a'r teledu.
Math o gyfrwng | disgyblaeth academaidd |
---|---|
Math | criticism |
Rhan o | cerddoleg |
Datblygodd beirniadaeth cerddoriaeth fodern ar y cyd â thwf y diwydiant argraffu a'r wasg boblogaidd. Sefydlwyd y cyfnodolyn cyntaf ar bwnc cerddoriaeth, Critica musica, gan y cyfansoddwr Johann Mattheson yn Hambwrg yn 1722. Yn ddiweddarach sefydlwyd cylchgronau tebyg yn Ffrainc (Journal de musique française et italienne; 1764) a Lloegr (New Musical and Universal Magazine; 1774). Mae'n bosib taw'r beirniad proffesiynol cyntaf ar bwnc cerddoriaeth oedd J. F. Rochlitz (1769–1842), golygydd yr Allgemeine musikalische Zeitung yn Leipzig, a ddefnyddiai'r cyfnodolyn hwnnw i glodfori gwaith Johann Sebastian Bach. F. Rellstate oedd y newyddiadurwr cyntaf i ysgrifennu adroddiadau am berfformiadau cerddorol, a hynny yn y papur newydd dyddiol Vossische Zeitung (Berlin) o 1803 i 1813. Y papur Saesneg, The Times, oedd y cyntaf i benodi cerddor proffesiynol yn feirniad. Prif feirniad cerddorol Lloegr yn y 19g oedd J. W. Davison yn The Times (1846–79) a H. F. Chorley yn y cylchgrawn llenyddol wythnosol Athenaeum (1833–68).[1]
Ysgrifennwyd beirniadaeth gan sawl cyfansoddwr o fri, er enghraifft Robert Schumann yn Neue Zeitschrift für Musik, Hector Berlioz yn Journal des Débats (1835–63), Hugo Wolf yn Wiener Salon-Blatt, a Claude Debussy dan y ffugenw Monsieur Croche. Yn aml, modd o hyrwyddo cyfansoddwyr arbennig oedd beirniadaeth yn y wasg. Yn ystod y ddadl am opera a elwir Querelle des Bouffons yn 1752–4, cyhoeddwyd sawl pamffled ffyrnig ym Mharis yn amddiffyn y traddodiad opera Ffrengig ac yn lladd ar yr opera Eidalaidd, a fel arall. Yn Fienna, y beirniad pwysicaf oedd Eduard Hanslick sydd yn nodedig am ei bleidgarwch ac am ei atgasedd tuag at Richard Wagner a Johannes Brahms. Ymhlith y beirniaid cerddoriaeth yn Unol Daleithiau America oedd Philip Hale (Boston Post, Journal, a Herald), Lawrence Gilman (Harper's Weekly), Olin Downes (cefnogwr brwd dros Jean Sibelius yn The New York Times), a Richard Aldrich (The New York Times). Mae sawl llenor o fri wedi ysgrifennu ar bwnc cerddoriaeth, megis Heinrich Heine a George Bernard Shaw. Prif feirniaid Lloegr yn hanner cyntaf yr 20g oedd Ernest Newman, Neville Cardus, a H. C. Colles.[1]