Ben Davies, Pant-teg
gweinidog Annibynnol, Prifardd, awdur
(Ailgyfeiriad o Ben Davies)
Gweinidog a bardd Cymraeg oedd Ben Davies (1864 – 2 Ionawr 1937).
Ben Davies, Pant-teg | |
---|---|
Ganwyd | 1864 Cwmllynfell |
Bu farw | 2 Ionawr 1937 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, gweinidog yr Efengyl, glöwr |
Bywgraffiad
golyguGaned ef yn y Ddolgam, Cwmllynfell, ac wedi gadael yr ysgol yn 13 oed, bu'n gweithio fel glöwr hyd nes iddo fynd i ysgol baratoi Llansawel, Sir Gaerfyrddin yn 1885, yna i Goleg y Bala. Ordeiniwyd ef yn weinidog gyda'r Annibynwyr, a bu'n weinidog Bwlchgwyn a Llandegla, yna'n weinidog Panteg, Ystalyfera. Bu'n gadeirydd Undeb yr Annibynwyr yn 1928.
Barddoniaeth
golyguDechreuodd farddoni yn ieuanc, ac roedd wedi meistroli'r gynghanedd erbyn ei fod yn 13eg oed. Roedd yn aelod amlwg o symudiad y Beirdd Newydd. Enillodd nifer o brif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol; y Goron yn Rhyl 1892, Pontypridd 1893 a Chaernarfon 1894, a'r gadair yn Llandudno 1896.
Gweithiau
golygu- Bore Bywyd (1896)