Howell Elvet Lewis (Elfed)
Bardd ac emynydd oedd Howell Elvet Lewis (14 Ebrill 1860 – 10 Rhagfyr 1953), sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol Elfed. Fe'i ganed yn y Gangell, Blaen-y-coed, Sir Gaerfyrddin. Roedd yn weinidog ac yn Archdderwydd rhwng 1924 a 1928. Mae ei waith barddonol yn nodweddiadol o gynnyrch y Bardd Newydd.
Howell Elvet Lewis | |
---|---|
Ffugenw | Elfed |
Ganwyd | 14 Ebrill 1860 Blaen-y-coed |
Bu farw | 10 Rhagfyr 1953 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd |
Plant | Malcolm Lewis |
- Gweler hefyd Elfed.
Bywgraffiad
golyguEf oedd yr hynaf o ddeg o blant. Bu ei frawd Tom yn Athro Hebraeg ym Manceinion ac yn brifathro Coleg Diwinyddol Aberhonddu am 39 mlynedd. Roedd brawd arall, Dan, yn newyddiadurwr yn Lerpwl ac wedyn yn olygydd y Glamorgan Free Press ym Mhontypridd. Efallai mai'r enwocaf y tu allan i Gymru oedd y pensaer a pheirianwr sifil Lewis Holme Lewis. Teilwr oedd John Lewis tadcu Elfed Lewys, ac yr unig un o'r brodyr a chwiorydd a fagodd blant yn Gymraeg.[1]
Gwaith llenyddol
golyguYmhlith cerddi mwyaf adnabyddus Elfed mae 'Gwyn ap Nudd' (telyneg telyneg am frenin y Tylwyth Teg) a'r 'Ddau Frawd'. Ar y cyfan ni phrisir ei farddoniaeth lawer heddiw oherwydd tuedd y bardd at sentimentaliaeth ramantaidd. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1888 ac 1891, a'r Gadair yn 1894.
Ysgrifennodd nifer o emynau yn Gymraeg a Saesneg. Fel hanesydd llên, cyhoeddodd gyfrolau ar waith Ceiriog, Morgan Rhys ac Ann Griffiths.
Cyfieithodd hefyd o'r Almaeneg y ddrama Wilhelm Tell gan Schiller yn 1924 i'r Gymraeg dan y teitl Gwilym Tel.
Llyfryddiaeth ddethol
golyguGwaith Elfed
golygu- My Christ and other poems (1891). Cerddi.
- Planu Coed (1894). Ysgrifau.
- Caniadau (2 gyfrol: 1895, 1901). Cerddi.
- Songs of Assisi (1938). Cerddi.
- Gyda'r Hwyr (1945). Ysgrifau.
- Gwilym Tel (1924). Cyfieithiad o Ddrama.
Cofiant
golyguCyhoeddwyd cofiant iddo gan Emlyn G. Jenkins yn 1957.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Elfed - Cawr ar goesau byr. Ioan Robers. Lolfa 2000