Bensen
Cyfansoddyn cemegol organig persawrus yw bensen. Ei fformwla gemegol yw C6H6. Mae bensen yn hylif di-liw fflamadwy iawn.
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | aromatic hydrocarbon, homocyclic compound, substituted benzene |
Màs | 78.046950192 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₆h₆ |
Dyddiad darganfod | 1825 |
Rhan o | benzene metabolic process, benzene catabolic process, benzene biosynthetic process, response to benzene, benzene 1,2-dioxygenase activity |
Yn cynnwys | carbon, hydrogen |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Strwythur
golyguMae gan fensen y fformiwla C6H6. Mae'r chwe charbon yn ffurfio hecsagon gydag un atom o hydrogen wedi'i bondio â phob un. Mae'r holl fondiau C-C yr un hyd; rhwng hyd bond sengl a bond dwbl. Mae pob C wedi'i bondio'n gofalent â dwy C arall yn ogystal ag un atom o hydrogen. Mae'r electron mewn orbitalau p yr atomau carbon yn gorgyffwrdd ac yn ffurfio system-π o electronau dadleoledig.
Gweler hefyd
golygu