Liwcemia

(Ailgyfeiriad o Lwcimia)

Grŵp o afiechydon cansar y gwaed ydy liwcemia (Groeg: λευκός leukemia, (neu lwcimia) sef "gwyn" fel y gair 'lleu'ad neu 'go-leu' a αίμα yn golygu "gwaed" h.y. "gwaed gwyn"). Mae'n cychwyn ym mêr yr esgyrn, lle mae'r gwaed yn cael ei gynhyrchu. Mewn claf sy'n dioddef o lwcimia, cynhyrchir llawer mwy o gelloed gwyn (neu leukocytes) nag arfer[1]. Nid yw'r rhain wedi datblygu'n llawn, a gelwir nhw'n 'blasts'.[2] Mae'r term "liwcemia" yn derm eang am sawl math o gansar y gwaed. Mae'r symtomau'n cynnwys cleisio'r corff, blinder a lleihad yn ynni'r claf, a'r risg o ddal heintiau.[2] Mae'r symtomau hyn yn digwydd oherwydd gormod o gelloedd gwyn, sydd wedi cymryd drosodd oddi wrth y celloedd gwaed eraill e.e. y celloedd coch sy'n cludo ocsigen a'r platennau, sy'n atal gwaed rhag llifo allan o'r corff.[2] Gwneir diagnosis fel arfer drwy brawf gwaed a biopsi lle tynnir ychydig o fêr o'r corff a'i astudio drwy feicrosgrop.[2]

Liwcemia
Delwedd:Symptoms of leukemia.png, Symptoms of leukemia-hy.svg
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd, symptom neu arwydd Edit this on Wikidata
Mathhematologic cancer, canser mêr yr esgyrn, clefyd Edit this on Wikidata
Arbenigedd meddygolHematoleg edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Rhestr Afiechydon
Pigiad
Pwyswch ar dangos i weld y rhestr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu
Celloedd gwaed person ag ALL: 'Acute Lymphoblastic Leukemia'.

Triniaeth golygu

Hyd at 2015, ceisiwyd dileu'r celloedd gwyn drwy cimotherapi a radiotherapi, ond sgil effaith hyn yw diffyg gallu'r driniaeth i wahaniaethu rhwng y naill gell a'r llall, felly lledir pob cell newydd gan gynnwys y rhai da. Sgileffeithiau corfforol y triniaethau hyn yw: colli blew'r corff, colli celloedd o fewn y geg, y coluddion a mannau eraill, colli ynni a marwolaeth.[3] Ymhlith y ffactorau sy'n cynyddu'r risg o gael lwcimia mae: ysmygu, ymbelydredd, cemegolion fe Bensen, firws (fel y T-lymphotropic) a Syndrom Down.[3][4]

Cafwyd llawer o ymchwil i therapi genynnol ers y 2010au gan gynnwys y defnydd o deilwrio genynnau, ac adnabod y genynnau o fewn had gelloedd, sydd weithiau'n achosi newid yn y DNA sydd yn ei dro'n achosi lwcimia.

Achos lwcimia golygu

Mae rhai o'r rhesymau pam fod lwcimia'n dechrau o fewn y corff yn wybyddus; gall y rhesymau fod naill ai'n rhai'n ymwneud â'r amgylchedd neu'n rhai genetig. Yn 2012, cafodd 352,000 o bobl ledled y byd y clefyd hwn, gan achosi 265,000 o farwolaethau.[5] Dyma'r math mwyaf niferus o gansar mewn plant. Mae tri chwarter yr achosion hyn mewn plant o'r fath acute lymphoblastic.[4] O fewn yr oedolyn, AML a CLL yw'r mwyaf niferus.[4] Mae lwcimia'n digwydd llawer amlach mewn gwledydd sydd wedi datblygu.[5] Nid oes wnelo deiet ddim i'w wneud ag achosi lwcimia; i'r gwrthwyneb, ceir peth tystiolaeth fod bwyta mwy o lysiau nag arfer yn gymorth i atal lwcimia.[6]

Dosbarthiad golygu

Yn glinigol ac yn batholegol, dosberthir y gwahanol fathau o gansar i ddau grŵp, gwyllt a chronig:

  • liwcemia gwyllt ('acute leukemia'): yr hyn sy'n nodweddiol o'r math hwn yw'r cynnydd aruthrol o un math o gelloedd gwaed gwyn (e.e. lymffoblasts) sydd yn eu tro yn cymryd lle'r mathau (iach) eraill megis y celloedd coch neu'r platennau. Gall ddigwydd mewn babis, plant ac oedolion ifanc. Mae angen triniaeth cynnar a sydyn i drin liwcemia gwyllt gan fod y celloedd gwyllt yn gor-dyfu mor sydyn gan ymuno â llif y gwaed a lledaenu drwy organau'r corff. Fe allent, hyd yn oed, deithio i fyny'r asgwrn cefn ac i'r ymennydd.
  • liwcemia cronig: mae'r math hwn yn gweithio'n ddistaw dros gyfnod o fisoedd neu flynyddoedd i ddatblygu. Unwaith eto, mae'r celloedd gwyn abnormal yn cael eu gor-gynhyrchu. Mewn pobol hŷn, fel arfer, y digwydd y ffurf cronig o'r afiechyd. Does dim cymaint o frys i drin y math hwn (yn wahanol i liwcemia gwyllt) er mwyn monitro'r claf a theilwrio'r driniaeth ar gyfer y claf.

Yr ail ddull o ddosbarthu liwcemia ydyw drwy edrych ar y celloedd eu hunain: sut fath o gelloedd ydy'r rhai drwg? Ceir dau fath o gelloedd gwyn drwg: liwcemia lymffoblastig (lymffoblastig neu lymffocytic) a liwcemia myeloid neu myelogenous.

  • mewn liwcemia lymffoblastig (lymffoblastig neu lymffocytic) mae'r addasu cancraidd yn digwydd o fewn y mêr sydd fel arfer yn creu lymffosites.
  • mewn liwcemia myeloid neu myelogenous, mae'r addasu cancraidd yn digwydd mewn math o gelloedd mêr sydd fel arfer yn creu celloedd coch, gwyn neu blatennau.

Drwy uno'r ddwy ffordd uchod o ddosbarthu fe ddown at bedwar categori — acute lymphoblastic leukemia (ALL), acute myeloid leukemia (AML), chronic lymphocytic leukemia (CLL) a chronic myeloid leukemia (CML) — a mathau eraill llai niferus.[4][5]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Leukemia". NCI. Cyrchwyd 13 June 2014.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 "What You Need To Know About™ Leukemia". National Cancer Institute. 2013-12-23. Cyrchwyd 18 Mehefin 2014.
  3. 3.0 3.1 Hutter, JJ (Jun 2010). "Childhood leukemia.". Pediatrics in review / American Academy of Pediatrics 31 (6): 234–41. doi:10.1542/pir.31-6-234. PMID 20516235.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 "A Snapshot of Leukemia". NCI. Cyrchwyd 18 Mehefin 2014.
  5. 5.0 5.1 5.2 World Cancer Report 2014. World Health Organization. 2014. tt. Chapter 5.13. ISBN 9283204298.
  6. Ross JA, Kasum CM, Davies SM, Jacobs DR, Folsom AR, Potter JD (August 2002). "Diet and risk of leukemia in the Iowa Women's Health Study". Cancer Epidemiol. Biomarkers Prev. 11 (8): 777–81. PMID 12163333. http://cebp.aacrjournals.org/content/11/8/777.long.