Bernardo Atxaga
Awdur a llenor o Wlad y Basg yw Bernardo Atxaga (ganwyd 27 Gorffennaf 1951) (defnyddia'r ffugenw Joseba Irazu Garmendia).
Bernardo Atxaga | |
---|---|
Ffugenw | Bernardo Atxaga |
Llais | Bernardo Atxaga (aurkezpena).ogg |
Ganwyd | José Irazu Garmendia 27 Gorffennaf 1951 Asteasu |
Man preswyl | Zalduondo |
Dinasyddiaeth | Sbaen |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, bardd, awdur plant, sgriptiwr, nofelydd, awdur storiau byrion |
Arddull | barddoniaeth, traethawd |
Mudiad | Llenyddiaeth Fasgeg |
Priod | Asun Garikano |
Gwobr/au | Euskadi award - Literature in Basque, Gwobr llenyddiaeth plant ifanc yn y Basgeg, Gwobr Gwlad y Basg - llenyddiaeth Sbaeneg, Beterriko Liburua Ohorezko Literatur Aipamena, Kritika Saria euskarazko narratibari, Kritika Saria euskarazko narratibari, Kritika Saria euskarazko narratibari, Kritika Saria euskarazko narratibari, Kritika Saria euskarazko narratibari, Spanish Literature National Prize, Gwobr Ryngwladol y Nofel, Premio Ostana, Q130742756, Q130852613 |
Gwefan | https://www.atxaga.eus |
Ganwyd Atxaga yn Asteasu, Gipuzkoa, Gwlad y Basg. Derbyniodd ddiploma mewn economeg oddi wrth Brifysgol Bilbo, ac fe astudiodd athroniaeth ym Mhrifysgol Barcelona. Gweithiodd fel economegydd, gwerthwr llyfrau, Athro ar yr iaith Fasgeg, cyhoeddwr, ac ysgrifennwr sgriptiau ar gyfer y radio hyd at 1980 pan ymroddodd ei hun yn llwyr i ysgrifennu.
Cyhoeddwyd ei waith cyntaf, sef antholeg am awduron Basgeg, yn 1972. Cyhoeddwyd ei stori fer gyntaf, Ziutateaz ("Am y Ddinas"), yn 1976. Ymddagosodd ei gasgliad cyntaf o gerddi, Etiopia ("Ethiopia"), yn 1978. Mae wedi ysgrifennu dramau, geiriau i ganeuon, nofelau a straeon byrion. Daeth ei lyfr o straeon byrion, Obabakoak ("Unigolion a phethau o Obaba"), a gyhoeddwyd yn 1988, â llawer o amlygrwydd a gwobrau iddo, gan gynnwys Gwobr Lenyddol Genedlaethol Sbaen. Mae'r llyfr wedi ei gyfieithu i fwy na 20 iaith.
Fel rheol, fe ysgrifenai Atxaga yn y Fasgeg a chyfieithu ei waith i'r Sbaeneg. Yn dilyn Obabakoak, mae nifer o'i waith wedi eu trosi i ieithoedd eraill.
Nofelau
golygu- Obabakoak (1988)
- Behi euskaldun baten memoriak ("Atgofion Buwch Basgaidd", Pamiela, 1991)
- Gizona bere bakardadean ("Y Dyn Unig", Pamiela, 1993)
- Zeru horiek ("Y Ddynes Unig", 1996)
- Soinujolearen semea ("Mab Chwaraewr yr Acordian", 2003
Straeon byrion
golygu- Bi anai ("Dau Frawd", Erein, 1985)
- Bi letter jaso nituen oso denbora gutxian ( "Dau Lythyr", Erein, 1985)
- Henry Bengoa inventarium, Sugeak txoriak begiratzen dionean, Zeru horiek ("Dyfeisle Henry Bengoa. Pan Edrychith Neidr ar yr Adar, Y Ddynes Unig", Erein, 1995)
- Sara izeneko gizona ("Y Dyn O'r Enw Sara", Pamiela, 1996)
Barddoniaeth
golygu- Etiopia ("Ethiopia", Pott, 1978),
- Nueva Etiopia ("Ethiopia Newydd", Detursa, 1997)
Llyfrau plant
golygu- Chuck Aranberri dentista baten etxean ("Chuck Aranberri Mewn Deintyddfa", Erein, 1985)
- Nikolasaren abenturak, Ramuntxo detektibe ("Anturiaethau Nicholas, Ditactif Ramuntxo", Elkar 1979)
- Siberiako ipuin eta kantak ("Staeon a Chaneuaon Siberia", Erein)
- Jimmy Potxolo, Antonino apreta, Asto bat hipodromoan, Txitoen istorio, Flannery eta bere astakiloak (Elkar)
- Xolak badu lehoien berri (Erein, 1995),
- Xola eta basurdeak ("Xola a'r Baeddau Gwyllt", Erein 1996) - enillydd Gwobr Llenyddiath Basgeg i Blant yn 1997
- Mundua eta Markoni ("Y Byd a Markoni", BBK fundazioa, 1995)
Gwaith eraill
golygu- Ziutateaz (1976)
- Lekuak (2005)
Dolen allanol
golygu- Gwefan swyddogol (Basgeg) (Saesneg) (Sbaeneg)