Llenyddiaeth Fasgeg

Y corff llenyddol a ysgrifennir a thraddodir yn yr iaith Fasgeg, iaith arunig sy'n frodorol i Wlad y Basg ac yn iaith genedlaethol y Basgiaid, yw llenyddiaeth Fasgeg. Mae'n cynnwys traddodiadau llafar a gwerinol a gedwir yn fyw hyd yr 21g yn ogystal â'r llenyddiaeth grefyddol oedd yn dominyddu o'r 16g i'r 19g, a'r farddoniaeth, ffuglen, a rhyddiaith a gynhyrchwyd ers dechrau'r 20g.

Cynhyrchwyd y gweithiau ysgrifenedig cyntaf yn Fasgeg yn yr 16g, a rhyw canrif yn ddiweddarach blodeuai oes aur o farddoniaeth a rhyddiaith grefyddol. Wrth i'r cyfnod modern mynd rhagddi, rhwystrwyd datblygiad llenyddiaeth Fasgeg gan wrthdaro, yn enwedig y Rhyfeloedd Carlaidd yn y 19g a Rhyfel Cartref Sbaen (1936–39).[1] Yn ogystal, methiant a fu'r ymdrechion i safoni'r iaith lenyddol, a dioddefai'r Fasgeg o ddiffyg cydnabyddiaeth swyddogol. Gwaharddid yr iaith yn y system addysg a gweinyddiaeth gyhoeddis nes diwedd y 18g. Dechreuodd llenyddiaeth seciwlar ddatblygu yn yr 20g, ond rhwystrwyd hynny yn sgil y rhyfel cartref gan bolisïau iaith gormesol Francisco Franco. Ers ei farwolaeth yn 1975, datblygwyd ffurf safonol ac addysgir yr iaith mewn ysgolion.

Llên lafar golygu

Y prif ffurfiau yn llên lafar y Basgiaid ydy'r penillion ac alawon a drosglwyddir o oes i oes gan y bertsolariak. Maent yn perfformio'r rhain mewn cystadlaethau txapelketak, a ddarlledir ar y radio a'r teledu yn yr oes fodern. Ffurf arall ydy'r phastuala, drama gerdd a berfformir gan actorion amatur o'r pentrefi. Straeon crefyddol a didactig oedd y rhain yn draddodiadol, ond mae gan y fersiynau modern destunau hanesyddol fel arfer.

Yr Oesoedd Canol golygu

Dim ond ychydig o enghreifftiau o Fasgeg ysgrifenedig sy'n goroesi o'r Oesoedd Canol, fel arfer glosau mewn llawysgrifau. Mae'n debyg taw'r codecs Lladin Aemilianensis 60 sy'n cynnwys y cofnod hynaf o'r iaith, chwe gair i gyd, sy'n dyddio o'r 10g: jçioqui dugu / guec ajutu eç dugu.[2]

Y cyfnod modern cynnar golygu

Ni ymddangosodd traddodiad ysgrifenedig yn yr iaith Fasgeg nes canol yr 16g. Llenyddiaeth grefyddol, megis holwyddoregau a phregethau, a ysgrifennwyd gan offeiriaid Catholig yn ystod y Gwrth-Ddiwygiad oedd y rhan fwyaf o'r deunyddiau hyn. Clerigwyr oedd y mwyafrif helaeth o lenorion Basgeg o'r cyfnod hwnnw hyd at y 19g. Y llyfr cyntaf a gyhoeddwyd yn Fasgeg oedd Linguae vasconum primitiae (1545), casgliad o gerddi gan yr offeiriad Bernat Detxepare. Cyfieithwyd y Testament Newydd i'r iaith gan Ioannes Leizarraga yn 1571, ar gais Jeanne d'Albret, Brenhines Navarra.

Un o'r gweithiau nodedig o'r 17g yw Gero (1643) gan Pedro de Axular, sy'n annerch y Cristion sy'n esgeuluso'i enaid. Parhaodd gweithiau Basgaidd i ganolbwyntio ar grefydd yn y cyfnod hwn, wrth i nifer o lenorion hefyd manteisio ar y cyfle i brofi harddwch a buddioldeb yr iaith Fasgeg a dangos ei fod cystal ag unrhyw iaith arall.

Llenyddiaeth gyfoes golygu

Erbyn yr 20g, datblygai llenyddiaeth seciwlar yn yr iaith Fasgeg. Y nofelydd cyntaf yn yr iaith oedd Txomin Agirre, a gyhoeddodd sawl nofel foesau eidylaidd yn nechrau'r 20g. Ystyrir Kresala (1906), stori am forwyr, yn waith goreuaf a mwyaf realistig yr awdur hwnnw. Datblygodd farddoniaeth ysgrifenedig yn Fasgeg yn y cyfnod cyn Rhyfel Cartref Sbaen. Cyhoeddodd nifer o'r beirdd cynnar eu gwaith yn Sbaeneg hefyd, er mwyn denu nifer fwy o ddarllenwyr, er enghraifft Esteban Urkiaga (Lauaxeta) a Jose Mari Agirre (Lizardi). Dylanwadwyd arnynt gan fudiadau llenyddol Ewropeaidd, megis yr elfennau Symbolaidd a Pharnasaidd yng ngwaith Lauaxeta.

Er i Franco orfodi unieithrwydd swyddogol ar Sbaen yng nghanol yr 20g, llwyddodd academi'r Fasgeg, yr Euskaltzaindia, barhau â'i gwaith o safoni'r amryw dafodieithoedd yn iaith safonol, Euskara Batua. Un gwaith nodedig o'r cyfnod hwn ydy'r arwrgerdd Arantzazu: Euskal-sinismenaren (1949) gan Salbatore Mitxelena. Yn niwedd y 1950au, dechreuodd llenorion Basgaidd unwaith eto gyhoeddi ffuglen a barddoniaeth yn eu mamiaith. Arbrofodd sawl un â themâu dirfodaeth a thechnegau'r nouveau roman, dan ddylanwad llenorion Ffrengig. Ymhlith y genhedlaeth hon o nofelwyr mae José Luis Alvarez Enparanza (Txillardegi) a Ramón Saizarbitoria. Cafodd ffuglenwyr eraill, megis y llenor toreithiog Anjel Lertxundi, eu hysbrydoli gan arddull newydd-realaidd o'r Eidal a realaeth hudol o America Ladin.

Trodd nifer o feirdd yn ail hanner yr 20g yn ôl at draddodiadau'r bertsolariak ac etifeddiaeth lafar y Fasgeg. Cyfansoddodd Nicolás Ormaechea (Orixe) arwrgerdd yn yr arddull hon o'r enw Euskaldunak (1950). Cyfunodd Gabriel Aresti elfennau'r traddodiad llafar â themâu sosialaidd, er enghraifft yn ei gyfrol Harri eta herri (1964). Yn sgil marwolaeth Franco a chyfansoddiad newydd i Sbaen yn 1978, ffynnodd y diwydiant cyhoeddi Basgeg yn y 1980au. Daeth nifer o lenorion benywaidd i'r amlwg, gan gynnwys Laura Mintegi, Itxaro Borda, Amaia Lasa, ac Arantxa Iturbe. Y llenorion cyfoes amlycaf yn yr iaith Fasgeg yw Bernardo Atxaga, awdur y nofel Obabakoak (1988), a'r awdures i blant Mariasun Landa, sy'n adnabyddus am ei straeon Txan fantasma (1992) ac Errusika (1988).

Cyfeiriadau golygu

  1. L. Trask, The History of Basque (Routledge, 1997).
  2. E. Aznar Martínez, El euskera en La Rioja: Primeros testimonios (2011), tt. 293–304.