Bharadvajasana
Asana, neu safle'r corff o fewn ioga yw Bharadvajasana (Sansgrit: भरद्वाजासन; IAST: Bharadvājāsana) neu Tro Bharadvaja; caiff ei ddefnyddio o fewn ymarferion ioga modern fel ymarfer corff.[1]
Math o gyfrwng | asana |
---|---|
Math | asanas eistedd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Geirdarddiad
golyguCysegrwyd yr asana i'r doethor, yr awdur a'r academydd Indiaidd Bharadvāja[2] a oedd yn un o'r Saith Doethor Mawr neu Rishi.[3] Ef oedd tad Drona, meistr celfyddydau milwrol a gwrw brenhinol Kauravas, Pandavas a'r Devastras,[4] y tywysogion a ymladdodd rhyfel mawr y Mahabharata.
Darlunnir asana gwahanol dan yr enw Bharadvajasana yn y 19g Sritattvanidhi; mae'n debyg i Mayurasana gyda'r coesau yn Padmasana, ond fel y'i lluniwyd byddai'n amhosibl ei berfformio.[5]
Mae'r asana a adwaenir heddiw wrth yr enw Bharadvajasana yn un modern, a welwyd gyntaf yn yr 20g.[6] Fe'i disgrifir yng ngweithiau dau o ddisgyblion Krishnamacharya, Light on Yoga gan BKS Iyengar ym 1966[7] ac ioga ashtanga vinyasa gan Pattabhi Jois.[6]
Disgrifiad
golyguTro asgwrn cefn tra'n eistedd yw Bharadvājāsana. Y ffurf sylfaenol yw Bharadvajasana I, gyda'r coesau fel yn Virasana (yr Arwr), un droed ar y llawr a'r ffêr arall wedi'i orchuddio â bwa'r droed islaw.[8]
Amrywiadau
golyguMae Bharadvajasana II yn ffurf ddatblygedig sy'n gofyn am ystwythder yn y cluniau; plygir un goes fel yn Padmasana (y Lotws), tra bod y goes arall wedi'i phlygu fel yn Virasana.[9]
Mae Bharadvajasana ar gadair yn amrywiad a berfformir tra'n eistedd i'r ochr ar gadair heb freichiau. Nid yw hyn yn gofyn am ystwythder cluniau; mae'r breichiau'n gafael yng nghefn y gadair i gynorthwyo gyda'r tro. [10]
Gweler hefyd
golygu- Rhestr o safleoedd ioga
- Marichyaana, tro eistedd gydag un goes yn syth
- Matsyendrasana, tro eistedd gydag un pen-glin i fyny
Cyfeiriadau
golygu- ↑ YJ Editors 2012.
- ↑ Iyengar 1979, t. 251—252.
- ↑ Inhabitants of the Worlds Mahanirvana Tantra, translated by Arthur Avalon, (Sir John Woodroffe), 1913, Introduction and Preface
- ↑ Hopkins 1915.
- ↑ Sjoman 1999, pp. 74 and plate 5 (pose 28).
- ↑ 6.0 6.1 Sjoman 1999, t. 100.
- ↑ Iyengar 1979.
- ↑ Mehta 1990, t. 72.
- ↑ Mehta 1990, t. 77.
- ↑ Mehta 1990, t. 71.
Llyfryddiaeth
golygu- YJ Editors (2012). "Bharadvaja's Twist". Yoga Journal. Cyrchwyd 2012-12-10.
- Hopkins, Edward Washburn (1915). Epic Mythology. Noble Offset Printers. ISBN 978-0819602282.
- Iyengar, B. K. S. (1979). Light on Yoga. Schocken. ISBN 978-0-8052-1031-6.
- Mehta, Silva; Mehta, Mira; Mehta, Shyam (1990). Yoga: The Iyengar Way. Dorling Kindersley.
- Sjoman, Norman E. (1999). The Yoga Tradition of the Mysore Palace. Abhinav Publications. ISBN 978-81-7017-389-2.