K. Pattabhi Jois
'Gwrw', neu athro ioga Indiaidd yw K. Pattabhi Jois (26 Gorffennaf 1915[1] – 18 Mai 2009)[2][3] a ddatblygodd ac a boblogeiddiodd y Vinyāsa a'r arddull ioga fel ymarfer corff a elwir yn Ioga ashtanga vinyasa.[a][4] Ym 1948, sefydlodd Jois Sefydliad Ymchwil Ashtanga Yoga[5] yn Mysore, India.[6]
K. Pattabhi Jois | |
---|---|
Ganwyd | 26 Gorffennaf 1915 Hassan district |
Bu farw | 18 Mai 2009 o clefyd Mysore |
Dinasyddiaeth | India |
Galwedigaeth | athro |
Gwefan | http://www.kpjayi.org |
Roedd Patta'n allweddol wrth sefydlu Ioga modern fel ymarfer corff yn yr 20g, ynghyd â BKS Iyengar, disgybl arall o Krishnamacharya yn Mysore.[7][8][9] Camdriniodd Jois rai o'i fyfyrwyr ioga'n rhywiol trwy eu cyffwrdd yn amhriodol tra'n addasu safleoedd eu cyrff.[10] Ymddiheurodd Sharath Jois yn gyhoeddus am “addasiadau amhriodol” ei dad-cu.[11]
Bywgraffiad
golyguBywyd cynnar
golyguKrishna Pattabhi Jois ( Kannada ) ganwyd ar 26 Gorffennaf 1915 ( Guru Pūrṇimā, diwrnod lleuad llawn) ym mhentref Kowshika,[12] ger Hassan, Karnataka, de India. Yr oedd tad Jois yn astrolegydd, yn offeiriad ac yn ddeiliad tir. Ei fam oedd yn gofalu am y tŷ a'r naw o blant - pump o ferched a phedwar bachgen - a Pattabhi Jois yn bumed ohonynt. Yn bump oed, fe'i dysgwyd mewn Sansgrit a defodau gan ei dad, sef hyfforddiant safonol i fechgyn Brahmin. Ni ddysgodd unrhyw un arall yn ei deulu ioga.[13]
Addysg
golyguYm 1927, yn 12 oed, mynychodd Jois ddarlith a gwrthdystiad yn Neuadd y Jiwbilî [14] yn Hassan, Karnataka gan T. Krishnamacharya[15] a daeth yn fyfyriwr iddo y diwrnod wedyn. Arhosodd yn Kowshika am ddwy flynedd gan ymarfer gyda Krishnamacharya bob dydd.[13]
Ym 1930, rhedodd Jois i ffwrdd o'i gartref i Mysore i astudio Sansgrit, gyda 2 rupees.[1][16] Tua'r un amser ymadawodd Krishnamacharya Hassan i ddysgu rhywle arall. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, adunwyd Jois â Krishnamacharya, a oedd hefyd wedi gwneud ei ffordd i Mysore. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd Maharaja Mysore, Krishna Rajendra Wodeyar, yn ddifrifol wael a dywedir bod Krishnamacharya wedi ei iacháu, trwy ioga, lle roedd eraill wedi methu. Daeth y Maharaja yn noddwr i Krishnamacharya a sefydlodd yogaśala iddo ym Mhalas Jaganmohan.[17] Roedd Jois yn aml yn cyd-weithio â Krishnamacharya mewn arddangosiadau ioga,[18] ac yn achlysurol cynorthwyodd Krishnamacharya yn y dosbarth dysgodd yn ei absenoldeb.[19]
Elfen fawr o Ioga Ashtanga a oedd ar goll o ddysgeidiaeth gynnar Krishnamacharya oedd Surya Namaskar, Cyfarchiad i'r Haul. Fodd bynnag, roedd y gyfres hon o asanas eisoes yn bodoli, ac roedd Krishnamacharya yn ymwybodol ohono yn y 1930au, gan ei fod yn cael ei ddysgu, fel ymarfer corff yn hytrach nag fel ioga, yn y neuadd y drws nesaf i'w Yogaśala ym mhalas Mysore.[20][21]
Bywyd teulu
golyguAr leuad lawn Mehefin 1933, pan oedd Jois yn 18 oed, priododd Savitramma,[16] a ddaeth i gael ei hadnabod fel "Amma" gan deulu a myfyrwyr Pattabhi Jois. Cawsant dri o blant: Saraswathi, Mañju a Ramesh.[22][23]
Ym 1948, gyda chymorth ei fyfyrwyr, prynodd Jois gartref yn y rhan o'r dref o'r enw Lakshmipuram. Yn ôl Tim Miller, parhaodd Jois i ymarfer asanas nes i'w fab Ramesh gyflawni hunanladdiad pan oedd Jois yn ei 60au cynnar.[24]
Etifeddiaeth
golyguYn gynnar yn yr 21g, arweiniodd ŵyr Jois, sef R. Sharath Jois, gymuned Ioga Ashtanga fel cyfarwyddwr Sefydliad Ioga K. Pattabhi Jois Ashtanga (KPJAYI) yn Mysore.[25][26] Mae sefydliad Jois, Sonima, yn aml yn darparu cefnogaeth sefydliadol i deithiau byd Sharath, ac yn cynhyrchu rhaglenni ar-lein sy'n darparu offer addysgu atodol ar gyfer Ioga ashtanga vinyasa. Mae merch Jois, Saraswathi, a'i wyres, Sharmila, yn rhedeg ysgol ioga yn Mysore ac yn teithio'r byd ar deithiau hyfforddi.[27]
Llyfryddiaeth
golygu- Jois, Pattabhi (1999; gol diwygiedig 2012). Yoga Mala. Efrog Newydd: North Point Press.ISBN 978-0-86547-751-3
Nodiadau
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Pattabhi Jois: Ashtanga yoga guru". The Times. 31 Mai 2009. Cyrchwyd 18 Chwefror 2019.
- ↑ "Pattabhi Jois passes into the ages". News.rediff.com. Cyrchwyd 18 Chwefror 2019.
- ↑ Singleton, Mark; Goldberg, Ellen (2014). Gurus of Modern Yoga. Oxford: Oxford University Press. tt. 107–121. ISBN 978-0199938728.
- ↑ Broad, William (2012). The Science of Yoga: The Risks and the Rewards. New York: Simon & Schuster. t. 99. ISBN 9781451641424.
- ↑ "The Institute". Shri K Pattabhi Jois Ashtanga Yoga Institute.
- ↑ Anderson, Diane. "In Memoriam". Yoga Journal.
- ↑ Rose, Kenneth (2016). Yoga, Meditation, and Mysticism: Contemplative Universals and Meditative Landmarks. New York: Bloomsbury Publishing. t. 94. ISBN 1472571681.
Others on the list include "Swami Vivekananda, Paramahansa Yogananda, Swami Sivananda, Swami Vishnudevananda, Swami Satchidananda, B. K. S. Iyengar, and Indra Devi."
- ↑ Wilkins, Robert (7 Mehefin 2009). "Obituary: K Pattabhi Jois". The Guardian. Cyrchwyd 18 Chwefror 2019.
- ↑ Thurber, Jon (22 Mai 2009). "K. Pattabhi Jois, leading teacher of Ashtanga yoga, dies at 94". Los Angeles Times.
- ↑ Yoga Journal Staff (12 Chwefror 2018). "#TimesUp: Ending Sexual Abuse in the Yoga Community". Yoga Journal.
Yoga teacher Judith Hanson Lasater: [While I was] doing drop-backs from Tadasana (Mountain Pose) to Urdhva Dhanurasana (Wheel Pose) [Jois] came over to help me and put his pubic bone against my pubic bone, so I could feel him completely. He had me do three or four drop-backs, and when I came up after the last one, I looked around and saw three of my students, who were in the class with me, looking at me, mouths hanging open.
- ↑ "Sharath Jois, Paramaguru on Instagram: "Growing up I was very close to my grandparents. When I recall learning asana from my grandfather it brings me immense pain that I also…"". Instagram. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-26. Cyrchwyd 11 Gorffennaf 2019.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ "churumuriYOGA GURU K. PATTABHI JOIS IS NO MORE. RIP". Churumuri.blog. 18 Mai 2009. Cyrchwyd 18 Chwefror 2019.
- ↑ 13.0 13.1 Stern, Eddie. Foreword in "Yoga Mala" by Pattabhi Jois. New York: North Point Press, 2002.
- ↑ "churumuriThe second most famous Mysorean in the world". Churumuri.blog. 29 Mehefin 2006. Cyrchwyd 18 Chwefror 2019.
- ↑ "At the pearly gates in dhoti, vibhuti, pump shoes". Churumuri.blog. 19 Mai 2009. Cyrchwyd 18 Chwefror 2019.
- ↑ 16.0 16.1 Bajaj, Vikas (20 Mai 2009). "Krishna Pattabhi Jois, Leading Expert in Yoga, Dies at 93". The New York Times. Cyrchwyd 18 Chwefror 2019.
- ↑ Singleton, Mark (2010). Yoga Body: The Origins of Modern Posture Practice. Oxford University Press. tt. 175–210. ISBN 978-0195395341.
- ↑ "churumuriJois @ work: 'Bad lady, why forgetting bakasana?'". Churumuri.blog. 18 Mai 2009. Cyrchwyd 18 Chwefror 2019.
- ↑ Stern, Eddie (2002). Yoga Mala. USA: North Point Press. ISBN 978-0865477513.
- ↑ Singleton, Mark (2010). Yoga Body: The Origins of Modern Posture Practice. Oxford University Press. tt. 180-181, 203–206. ISBN 978-0195395341.
- ↑ Sjoman, N. E. (1999). The Yoga Tradition of the Mysore Palace. New Delhi, India: Abhinav Publications. tt. 49, 54. ISBN 81-7017-389-2.
- ↑ "K. Pattabhi Jois". Shri K Pattabhi Jois Ashtanga Yoga Institute. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Mawrth 2013.
- ↑ "Guruji". Ashtanga Yoga New York. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Mehefin 2012.
- ↑ "Ashtanga.com Articles: Tim Miller Interview by Deborah Crooks". Ashtanga.com. Cyrchwyd 18 Chwefror 2019.
- ↑ McLean, Bethany. "Yoga-for-Trophy-Wives Fitness Fad That's Alienating Discipline Devotees". The Hive. Cyrchwyd 18 Chwefror 2019.
- ↑ "Peace, love and misunderstanding". Dailytelegraph.com.au. 31 Mawrth 2012. Cyrchwyd 18 Chwefror 2019.
- ↑ Byrne, Jean (2014). Singleton, Mark; Goldberg, Ellen (gol.). 'Authorized by Sri K. Pattabhi Jois': The Role of Parampara and Lineage in Ashtanga Vinyasa Yoga. USA: Oxford University Press. tt. 107–121. ISBN 978-0199938728.
Dolenni allanol
golygu- Cyfryngau perthnasol Pattabhi Jois ar Gomin Wicimedia
- Official Ashtanga Yoga Institute website