Chwaraewr rygbi'r undeb o Gymro yw Billy McBryde (ganwyd 24 Hydref 1996). Ei safle arferol yw maswr, er ei fod wedi chwarae fel canolwr hefyd, ac mae'n chwarae i'r Scarlets a Chlwb Rygbi Llanelli . Ei dad yw'r cyn-fachwr a hyfforddwr tîm Cymru, Robin McBryde .

Billy McBryde
Enw llawn Billy McBryde
Dyddiad geni (1996-10-24) 24 Hydref 1996 (27 oed)
Man geni Caerfyrddin
Taldra 177 cm (5 ft 10 in)
Pwysau 93 kg (14 st 9 lb)
Ysgol U. Coleg Sir Gar
Perthnasau nodedig Robin McBryde

Gwnaeth McBryde ei ymddangosiad cyntaf yn 18 oed ar gyfer Llanelli, fel eilydd yn erbyn Cross Keys Flwyddyn a hanner yn ddiweddarach, chwaraeodd ei gêm gyntaf gyda'r Scarlets, fe eilydd yng Cwpan Eingl-Gymreig lle drechodd y Scarlets ei gwerthwynebwr Caerfaddon o 44 pwynt i 21.[1]

Fe'i dewiswyd i dîm Dan 20 Cymru ar gyfer Pencampwriaeth Dan 20 y Chwe Gwlad 2016. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y gêm agoriadol yn erbyn yr Alban. Daeth McBryde ymlaen yn y 79ain munud, a sgoriodd gic gosb ar unwaith i ennill y gêm i Gymru.[2] Cafodd ei ddewis eto ar gyfer Pencampwriaeth Rygbi Dan 20 y Byd 2016, a gwnaeth 3 ymddangosiad pellach i'r tîm Dan 20.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Young Scarlets stage outstanding comeback to beat Bath". scarlets.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-12-14. Cyrchwyd 22 January 2017.
  2. WRU. "REPORT: MCBRYDE IS WELSH HERO AT THE DEATH". wru.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-05-13. Cyrchwyd 22 January 2017.McBryde is Welsh hero at the death Archifwyd 2016-05-13 yn y Peiriant Wayback.