Cyn chwaraewr rygbi'r undeb o Gymro ydy Robin Currie McBryde (ganed 3 Gorffennaf 1970).[1] Enillodd 37 cap dros Gymru fel bachwr rhwng 1994 a 2005.

Robin McBryde
Enw llawn Robin Currie McBryde
Dyddiad geni (1970-07-03) 3 Gorffennaf 1970 (53 oed)
Man geni Bangor
Taldra 183 cm (6 ft 0 in)
Pwysau 98 kg (15 st 6 lb)
Gyrfa rygbi'r undeb
Gyrfa'n chwarae
Safle Bachwr
Clybiau proffesiynol
Blynydd. Clybiau Capiau (pwyntiau)
Bangor
Porthaethwy
Yr Wyddgrug
Abertawe
Llanelli
Sgarlets
Timau cenedlaethol
Blynydd. Clybiau Capiau
1994–2005  Cymru 37 (5)

Bywyd cynnar golygu

Ganed McBryde ym Mangor, a cafodd ei fagu yn Llanfechell, Ynys Môn yn fab i John (1946–2007) a Diana (1941-2019). Mae ganddo ddwy chwaer, Naomi a Beth. Mynychodd Ysgol Tryfan, Bangor.[2] Roedd ei fam Diana McBryde yn Bennaeth Chwaraeon yn Tryfan hyd ei ymddeoliad yn 2001.[3] Enillodd gystadleuaeth 'Dyn Cryfa Cymru' yn 1992.

Gyrfa rygbi golygu

Dechreuodd chwarae rygbi gyda chlybiau Bangor, Porthaethwy a'r Wyddgrug, cyn symud i dde Cymru, ble ymunodd â chlwb Abertawe ac yna Llanelli. Ef oedd capten Llanelli pan enillant y Gwpan yn 1998 a Phencampwriaeth Cymru yn 1999 ac aeth ymlaen i chwarae dros y Scarlets pan ffurfwyd y tîm rhanbarthol yn 2003. Chwaraeodd 250 o gemau dros Lanelli a'r Scarlets rhwng 1994 a 2005.

Enillodd ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Fiji yn 1994. Chwaraeoddd ei gêm olaf dros Gymru yn erbyn Iwerddon yn Mawrth 2005 pan enillodd Cymru'r Gamp Lawn. Cafodd ei ddewis ar gyfer taith y Llewod i Awstralia yn 2001, ond achos anaf iddo fethu'r daith.

Fel hyfforddwr blaenwyr Cymru, aeth allan i Gwpan Rygbi'r Byd Japan yn Hydref 2019. Bu farw ei fam Diana yn 78 mlwydd oed ar 13 Hydref 2019 ond arhosodd yn Japan i weithio gyda'r garfan, gan ddweud fod "neb yn fy nghefnogi mwy" na'i fam.[4]

Hyfforddi golygu

Wedi iddo ymddeol, cafodd ei benodi'n hyfforddwr tîm dan 18 y Scarlets ac yna fel hyfforddwr y blaenwyr ar gyfer tîm cenedlaethol Cymru. Yn Mehefin 2009 fe oedd prif hyfforddwr dros dro y tîm cenedlaethol yn ystod eu taith dwy gêm yng Ngogledd America.

Yn dilyn Cwpan Rygbi'r Byd 2019 bydd yn gadael y tîm rygbi cenedlaethol ar ôl 13 mlynedd gan gymryd swydd fel un o hyfforddwyr tîm Leinster.[5]

Ceidwad y Cledd golygu

Yn 2007, tra roedd Ray Gravell yn sâl, gofynnwyd i Robin McBryde fod yn Geidwad y Cledd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir y Fflint a'r Cyffiniau 2007. Yn dilyn marwolaeth Ray Gravell y flwyddyn honno, cyhoeddwyd mai McBryde fyddai Ceidwad y Cledd o hynny ymlaen.[2][6] "Robin o Fôn" yw ei enw barddol.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Robin McBryde player profile Scrum.com
  2. 2.0 2.1  Proffil yn adran 'Pobl'. Robin McBryde. BBC Cymru.
  3. Wales coach Robin McBryde's mother has died but he will stay with side in Japan (en) , Daily Post, 22 Hydref 2019. Cyrchwyd ar 28 Hydref 2019.
  4. Robin McBryde am aros yn Japan er marwolaeth ei fam , BBC Cymru Fyw, 22 Hydref 2019. Cyrchwyd ar 28 Hydref 2019.
  5. Robin McBryde i ymuno â thîm hyfforddi Leinster , BBC Cymru Fyw, 29 Ebrill 2019.
  6. "Ray Gravell obituary (Independent)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-10. Cyrchwyd 2012-10-29.