Biotin
Fformiwla cemegol biotin (a adnabyddir hefyd gyda'r enw fitamin B7) ydy C10H16N2O3S. Fel gweddill telulu Fitamin B gall hydoddi mewn dŵr, yn hytrach nac mewn olew. Mae'n cynnwys cylch iwreido (sef tetrahydroimidizalone) wedi ei uno gyda chylch tetrahydrothiophene. Mae asid falerig yn sownd wrth un o atomau carbon y cylch hwn.
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | cyfansoddyn cemegol, math o endid cemegol ![]() |
Math | fitamin B, primary metabolite, alkaloid, heterocyclic compound, Asid carbocsylig ![]() |
Màs | 244.088 uned Dalton ![]() |
Fformiwla gemegol | C₁₀h₁₆n₂o₃s ![]() |
Enw WHO | Biotin ![]() |
Clefydau i'w trin | Inherited metabolic disorder ![]() |
Rhan o | response to biotin, cellular response to biotin, biotin transmembrane transporter activity, biotin import across plasma membrane ![]() |
Yn cynnwys | nitrogen, sylffwr, carbon, ocsigen, hydrogen ![]() |
![]() |
Ei bwrpasGolygu
Mae biotin yn angenrheidiol ar gyfer twf celloedd, creu asid brasterog (fatty acids) a metaboledd brasder ac asidau amino. Mae'n cynorthwyo gyda nifer o adweithiau metaboledd ac yn cynorthwyo i symud carbon deuocsid. Cynorthwya hefyd gyda'r broses o gadwraeth lefelau siwgwr. Mae'n dda ar gyfer greu ewinedd a gwallt cryf ac o'r herwydd fe ddown ar ei draws mewn llawer o gosmetics masnachol ar gyfer y gwallt a'r croen.
Anamal iawn y down ar draws rhywun â diffyg biotin, gan fod bacteria yn y bol fel arfer yn creu digonedd ohono.