Dinas yn Crai Altai, Rwsia, yw Biysk (Rwseg: Бийск), a leolir ar lan Afon Biya yn agos i'w chymer yn Afon Katun. Biysk yw ail ddinas fwyaf y crai ar ôl Barnaul, canolfan weinyddol y crai. Poblogaeth: 210,115 (Cyfrifiad 2010).

Biysk
Stryd Sovetskaya yng nghanol Biysk.
Mathanheddiad dynol, tref/dinas, dinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth200,629 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1709 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethQ29865032 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+07:00, Amser Krasnoyarsk Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBiysk Urban Okrug Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd291.67 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr180 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.52°N 85.17°E Edit this on Wikidata
Cod post659300 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethQ29865032 Edit this on Wikidata
Map
Pont ar Afon Biya yn Biysk.

Cyfeirir at y ddinas fel "y porth i Fynyddoedd Altai" oherwydd ei lleoliad heb fod ymhell o'r mynyddoedd hynny yn Siberia. Mae Traffordd Chuysky yn cychwyn yn Biysk ac yn mynd wedyn drwy Weriniaeth Altai i'r ffin rhwng Rwsia a Mongolia.

Sefydlwyd caer ger y ddinas yn 1708-09, ar orchymyn Tsar Pedr Fawr. Daeth dinas Biysk yn ganolfan fasnachol o bwys rhanbarthol.

Ceir maes awyr yn gwasanaethu'r ddinas a'r ardal. Mae traffordd yn ei chysylltu â Novosibirsk.

Dolen allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.