Rhys ab Owain

brenin Deheubarth

Roedd Rhys ab Owain (bu farw 1078) yn frenin Deheubarth yn ne-orllewin Cymru.

Rhys ab Owain
Ganwyd11 g Edit this on Wikidata
Bu farw1078 Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
TadOwain ab Edwin (Deheubarth) Edit this on Wikidata

Roedd Rhys yn fab i Owain ab Edwin o linach Hywel Dda. Dilynodd ei frawd Maredudd ar orsedd Deheubarth yn 1072. Yn ôl Brut y Tywysogion ef ac uchelwyr Ystrad Tywi oedd yn gyfrifol am ladd Bleddyn ap Cynfyn, Gwynedd a Powys yn 1075.

Yn 1078 gorchfygwyd ef gan Trahaearn ap Caradog, oedd wedi dilyn Bleddyn ar orsedd Gwynedd, mewn brwydr ger Gwdig. Yn ddiweddarach yr un flwyddyn, lladdwyd Rhys gan frenin Gwent, Caradog ap Gruffydd. Mae croniclydd y Brut yn ystyried ei dynged fel dialedd cyfiawn am ei waith yn lladd Bleddyn ap Cynfyn. Dilynwyd ef fel brenin Deheubarth gan ei gefnder, Rhys ap Tewdwr.

Llyfryddiaeth golygu

John Edward Lloyd (1911) A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.)

O'i flaen :
Maredudd ab Owain ab Edwin
Teyrnoedd Deheubarth
Rhys ab Owain
Olynydd :
Rhys ap Tewdwr