Trahaearn ap Caradog

brenin Gwynedd

Roedd Trahaearn ap Caradog (bu farw 1081) yn dywysog Gwynedd o 1075 hyd 1081. Arglwydd Arwystli, ar y ffin rhwng Gwynedd a Powys, oedd Trahaearn a'r cantref hwnnw oedd ei gadarnle. Ymledodd ei awdurdod yn raddol dros rannau mawr o ogledd Cymru ac roedd ganddo uchelgeisiau yn y de yn ogystal.

Trahaearn ap Caradog
Ganwyd1030 Edit this on Wikidata
Bu farw1081 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
TadCaradog ap Gwyn ap Gollwyn ab Endywain o Arwydystli Edit this on Wikidata
MamNn ferch Gwerystan ap Gwaithfoed ap Gloddieu Edit this on Wikidata
PriodNest ferch Gruffudd ap Llywelyn Edit this on Wikidata
PlantLlywarch ap Trahern, Owain ap Trahaearn ap Caradog Edit this on Wikidata
Gweler hefyd Trahaearn.

Bywgraffiad golygu

Ar farwolaeth Bleddyn ap Cynfyn yn 1075, mae'n ymddangos nad oedd yr un o'i feibion yn ddigon hen i hawlio'r deyrnas, a chipiodd cefnder Bleddyn, Trahaearn ap Caradog, y goron. Yr un flwyddyn glaniodd Gruffudd ap Cynan ar Ynys Môn gyda byddin o Iwerddon, a chyda chymorth y barwn Normanaidd Robert o Ruddlan gorchfygodd Drahaearn ac enillodd feddiant ar Wynedd. Fodd bynnag bu trafferthion rhwng milwyr Gwyddelig Gruffudd a'r Cymry lleol yn Llŷn, a rhoddodd hyn gyfle i Drahaearn wrth-ymosod, gan orchfygu Gruffudd ym mrwydr Bron yr Erw yn yr un flwyddyn a'i orfodi i ffoi i Iwerddon.

Teyrnasodd Trahaearn ar Wynedd tan 1081, pan ddychwelodd Gruffudd ap Cynan a gwneud cynghrair gyda Rhys ap Tewdwr tywysog Deheubarth, oedd yn ddiweddar wedi ei yrru allan o'i deyrnas gan Caradog ap Gruffudd o Forgannwg. Gwnaeth Trahaearn gynghrair â Charadog ap Gruffydd, ond ym Mrwydr Mynydd Carn, i'r gogledd o Dyddewi, yr un flwyddyn lladdwyd Trahaearn a Charadog. Yn ôl Hanes Gruffudd ap Cynan, trawyd Trahaearn yn ei fol a syrthiodd i'r llawr, 'a Gwcharci Wyddel a wnaeth facwn ohonaw fal o hwch'. Enillodd Gruffudd ap Cynan orsedd Gwynedd unwaith yn rhagor a dychwelodd Rhys ap Tewdwr i'w safle fel tywysog Deheubarth.

Disgynyddion golygu

Priododd Gwladus, ferch Llywarch ap Trahaearn, Owain Gwynedd.

Cyfeiriadau golygu

  • R. R. Davies, The Age of Conquest: Wales 1063-1415 (Rhydychen, 1991). ISBN 0-19-820198-2
  • D. Simon Evans (gol.), Historia Gruffudd vab Kenan (Caerdydd, 1977). (Orgraff ddiweddar sydd yn y dyfyniad uchod, t. 15).
  • Thomas Jones (gol.), Brut y Tywysogion: Peniarth MS. 20 version (Caerdydd, 1952)
O'i flaen :
Bleddyn ap Cynfyn
Brenhinoedd Gwynedd Olynydd :
Gruffydd ap Cynan