Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg
Blodeugerdd Gymraeg a olygwyd gan Syr Thomas Parry yw Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg (yr Oxford Book of Welsh Verse).[1] Fe'i cyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1962 ac mae mewn print byth ers hynny.
Enghraifft o'r canlynol | blodeugerdd ![]() |
---|---|
Golygydd | Thomas Parry ![]() |
Cyhoeddwr | Gwasg Prifysgol Rhydychen ![]() |
Iaith | Cymraeg ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 1962 ![]() |
Genre | barddoniaeth ![]() |
Prif bwnc | llenyddiaeth ![]() |
Dyma'r detholiad mwyaf cynhwysfawr o farddoniaeth Gymraeg i weld golau dydd. Roedd yn ychwanegiad pwysig i'r gyfres unffurf o flodeugerddi cynrycholiadol a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Rhydychen. Gyda dros 565 o dudalennau, mae'n ddetholiad sy'n rhychwantu hanes llenyddiaeth Gymraeg o'r cychwyn yn y 6g i ganol yr 20g, o waith Aneirin a Taliesin i gerddi Saunders Lewis a T. H. Parry-Williams.
Er bod rhai beirniaid diweddar yn beirniadu'r golygydd am fod yn geidwadol braidd yn ei ddewis o destunau erys yn gyfrol anhepgor i fyfyrwyr Cymraeg.
Gweler hefyd Golygu
Cyfeiriadau Golygu
- ↑ Derec Llwyd Morgan. PARRY, SyrTHOMAS (1904 - 1985). Y Llyfrgell Genedlaethol. Adalwyd ar 6 Mai 2012.