Blorens
bryn (561m) yn Sir Fynwy
(Ailgyfeiriad o Blorenge)
Allt yn Sir Fynwy, Cymru, ydy Blorens (Saesneg: Blorenge). Fe'i lleolir tua 2 filltir i'r de-orllewin o'r Fenni, yn ne-ddwyrain Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Math | copa, bryn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 561 metr |
Cyfesurynnau | 51.8°N 3.0615°W |
Cod OS | SO2697611836 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 134 metr |
Rhiant gopa | Mynydd Coety |
Cadwyn fynydd | Bannau Brycheiniog |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Llwybr a golygfa
golyguCeir llwybr o amgylch y Blorens i gerdded arno. Gellir dechrau ei gerdded yn Llanffwyst neu mewn pentref ar ochr y mynydd (ac i'r gogledd) o'r enw Gofilon. Mae llethrau eithaf serth ar y bryn ond serch hynny mae'n llwybr hyfryd i'w gerdded.
Mae copa'r mynydd ynghanol darn gwastad o dir sydd yn lledu dros frig y mynydd. Ceir llwybr sy'n mynd draw i ochr ddwyreiniol y mynydd lle gwelir y copa wedi'i amgylchynu.
Dolen allanol
golygu- (Saesneg) Camera gwe Archifwyd 2009-02-06 yn y Peiriant Wayback