Bob Delyn a'r Ebillion
Band Cymraeg a Llydaweg yw Bob Delyn a'r Ebillion, a ffurfiwyd gan y prifardd Twm Morys a'r gitarydd Gorwel Roberts. Perfformiodd y band ar y llwyfan am y tro cyntaf yn 1988 mewn gig a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith.
Bob Delyn a'r Ebillion | |
---|---|
![]() | |
Bob Delyn a'r Ebillion | |
Gwybodaeth gefndirol | |
Man geni | ![]() ![]() |
Cerddoriaeth | Gwerin Amgen |
Offeryn(au) cerdd | Telyn, Gitâr, Mandolin,Sacsoffon, Clarinét, Bombard, Cornbîb, Ffidil, Synth, Drymiau, Gitâr Fâs |
Blynyddoedd | 1988- |
Cysylltiedig | Nolwenn Korbell, Gai Toms, |
Cyn aelodau | |
Nolwenn Korbell | |
Prif offeryn(au) | |
Telyn, Gitâr, Mandolin,Sacsoffon, Clarinét, Bombard, Cornbîb, Ffidil, Synth, Drymiau, Gitâr Fâs |
Bu'r gantores Nolwenn Korbell yn canu gyda'r Ebillion cyn droi at yrfa solo.
AelodauGolygu
- Twm Morys - Llais, Telyn, Organ geg
- Gorwel Roberts - Gitâr, mandolin
- Einir Griffiths - Llais
- Edwin Humphries - Sacsoffon, Clarinét, Bombard
- Enion Gruffydd - Sacsoffon, pibau, Bombard
- Clare Jones - Ffidil, Synth
- Tim (Jive Hare) Jackschel - Synth
- Rhydwen Mitchel - Drymiau
- Gwyn Jones - Offer taro, drymiau
- Siaron James - Offer taro, Llais
- Gwilym Benjamin Hanaby ap Ionas (Han) - Gitâr Fâs
Ebillion Rhyngwladol
- Jamie Dore - Gitar Fâs
- Nolwenn Korbell - Llais
- Gai Toms - Gitar Fâs
- Mat Davies - Gitar Fâs
- Hefin Huws - Drymiau, llais
DisgyddiaethGolygu
- Gedon (1990, Crai - CD021)
- Gwybade Bach Cochlyd (1996, Crai - CD049)
- Sgwarnogod Bach Bob (2003, Sain - SCD 2429)
- Dore (2004, Sain - SCD 2421)
- Dal i 'Redig Dipyn Bach (2017, Sain - SCD 2773)