Twm Morys
Bardd a cherddor o Gymro yw Twm Morys (ganwyd Hydref 1961). Enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2003 ym Meifod am yr awdl Drysau.
Twm Morys | |
---|---|
Twm Morys yng Ngŵyl Werin y Smithsonian 2013 | |
Ganwyd | 1961 Rhydychen |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, bardd |
Tad | Jan Morris |
Mam | Elizabeth Morris |
Bywgraffiad
golyguGanwyd Morys yn Rhydychen, mae'n fab i'r awdures Jan Morris. Magwyd yn Llanystumdwy, a mynychodd Ysgol y Llan, ac yn saith oed aeth i Ysgol Fonedd yn Amwythig. Dychwelodd i Gymru i astudio Lefel A yn y Gymraeg yn Ysgol Gyfun Aberhonddu.[1]
Graddiodd o Goleg Prifysgol Aberystwyth gyda gradd mewn Astudiaethau Celtaidd ac enillodd gadair yr Eisteddfod Ryng-Golegol. Wedi dechrau gwaith ymchwil ar Ganu Dychan Llyfr Coch Hergest, cafodd Morys swydd fel ymchwilydd gyda Radio Cymru, cyn dod yn glerwr. Symudodd i Lydaw yn ddiweddarach a bu yno am ddegawd.[1] Bu hefyd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Rennes yn Llydaw.[2]
Twm Morys oedd sylfaenydd y grŵp Bob Delyn a'r Ebillion, gyda'r gitarydd Gorwel Roberts. Bu'r gantores o Lydawes Nolwenn Korbell yn gyd-leisydd gydag ef am gyfnod.
Mae Morys wedi troi ei law at olygu barddoniaeth Cymraeg Canol. Golygodd waith Yr Ustus Llwyd (14g) mewn cyfrol yng Nghyfres Beirdd yr Uchelwyr (2007).
Twm Morys oedd Bardd Plant Cymru o 2009 hyd 2010.[3] Cafodd ei olynu gan Dewi 'Pws' Morris.
Mae Morys yn olygydd cylchgrawn y Gymdeithas Gerdd Dafod, Barddas.
Llyfryddiaeth
golyguBarddoniaeth
golygu- Ofn Fy Het, Barddas (1995)
- Mymryn Bach o Hon (1998)
- 2, Cyhoeddiadau Barddas (2002)
Rhyddiaith
golygu- Grwyne Fawr, cyfres 'Y Man a’r Lle', Gwasg Gregynog (1998)
Gwaith ar y cyd â Jan Morris
golygu- Wales, the First Place, Random House (1982)
- A Machynlleth Triad, Penguin (1994)
- Ein Llyw Cyntaf, Gomer (2001)
Ffynonellau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Twm Morys". Unknown parameter
|cyhoeddwr=
ignored (help) - ↑ Twm Morys. Wales Arts International.
- ↑ Eryl Crump (2009-05-27). Twm Morys confirmed as laureate at Urdd Eisteddfod. Daily Post.