Bobby Windsor
Mae Robert William Windsor (ganwyd 31 Ionawr 1948[1] yng Nghasnewydd, Sir Fynwy), a oedd yn cael ei adnabod fel Bobby a' gyda'r llysenw "The Duke", yn gyn chwaraewr Rygbi'r undeb a enillodd 28 cap Rygbi'r undeb i Gymru fel bachwr rhwng 1973 a 1979.[2] Cyhoeddodd Windsor ei hunangofiant The Iron Duke ym mis Hydref 2010.[3]
Enw llawn | Robert William Windsor | ||
---|---|---|---|
Dyddiad geni | 31 Ionawr 1948 | ||
Man geni | Casnewydd, Sir Fynwy | ||
Taldra | 1.75 m (5 tr 9 mod) | ||
Pwysau | 93 kg (14 st 9 lb) | ||
Ysgol U. | Ysgol Uwchradd Fodern Brynglas | ||
Gwaith | Gweithiwr dur | ||
Gyrfa rygbi'r undeb | |||
Gyrfa'n chwarae | |||
Safle | Bachwr | ||
Clybiau amatur | |||
Blynyddoedd | Clwb / timau | ||
Brynglas Pont-y-cymer Pont-y-pŵl | |||
Timau cenedlaethol | |||
Blynydd. | Clybiau | Capiau | |
1973 - 1979 1974 & 1977 |
Cymru Y Llewod |
28 5 |
(4) (0) |
Gyrfa cynnar
golyguYn weithiwr dur wrth ei alwedigaeth, dechreuodd Windsor ar ei yrfa gyda rygbi'r undeb fel cefnwr, yn chwarae fel cefnwr a 'fly-half', ond daeth yn enwog yn safle'r bachwr. Chwaraeodd dros Brynglas a Cross Keys cyn ymuno â Phontypŵl lle gyda Graham Price a Charlie Faulkner daeth yn rhan o'r chwedlonol 'Pontypool Front Row', a elwir hefyd yn Viet Gwent (yn chwarae ar Ffrynt Rhyddid Cenedlaethol De Fietnam) a anfarwolwyd yn y gân gan Max Boyce.
Cymru
golyguChwaraeodd Windsor ei gêm gyntaf dros Gymru yn erbyn tîm rygbi undeb cenedlaethol Awstralia yng Nghaerdydd ym 1973, gêm a enillwyd gan Gymru o 24 pwynt i ddim gyda Windsor yn sgorio cais fel bachwr, a chymerodd drosodd oddi wrth Jeff Young fel y dewis cyntaf fel bachwr. Chwaraeodd rhes flaen Pontypŵl dros Gymru fel uned 19 o weithiau yn ystod y 1970au, a cholli mewn dim ond pedair o'r gemau hynny. Chwaraeodd ei gêm ryngwladol olaf yn erbyn tîm rygbi undeb cenedlaethol Ffrainc ym mis Chwefror 1979.
Y Llewod
golyguCafodd Windsor ei ddewis ar gyfer dwy daith y Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig[4]. Chwaraeodd yn yr holl brofion ar y daith i Dde Affrica yn 1974, gan helpu blaenwyr y Llewod i ddominyddu tîm rygbi undeb cenedlaethol De Affrica Ar y daith yn nes ymlaen i Seland Newydd yn 1977 chwaraeodd yn y prawf cyntaf yn unig ac ni wnaeth chwarae cystal yn Ne Affrica.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Griffiths, John (1987). The Phoenix Book of International Rugby Records. London: J. M. Dent & Sons Ltd. tt. 12:34. ISBN 0-460-07003-7.
- ↑ "Gwent Dragons Personnel - archifwyd o 2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-12. Cyrchwyd 2012-02-12.
- ↑ "Stars turn out for Bob (From South Wales Argus)". Southwalesargus.co.uk. 2010-10-06. Cyrchwyd 2013-06-04.
- ↑ "Copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-24. Cyrchwyd 2009-01-11. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)
Dolenni allanol
golygu- Bobby Windsor ymysg enwogion y byd chwaraeon