Graham Price
Cyn-chwaraewr Rygbi'r Undeb o Gymru yw Graham Price MBE (ganwyd 24 Tachwedd 1951). Enillodd 41 o gapiau dros Cymru, yn chwarae fel prop.
Graham Price | |
---|---|
Ganwyd | 24 Tachwedd 1951 Ismailia |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb, peiriannydd sifil, siaradwr ysgogol |
Taldra | 183 centimetr |
Pwysau | 97 cilogram |
Gwobr/au | MBE |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Y Barbariaid, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Tîm Rygbi Pont-y-pŵl, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig |
Safle | prop |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Ganed ef yn Moascar yn yr Aifft, ac addysgwyd ef yn Ysgol Gorllewin Mynwy, Pontypwl cyn astudio peirianneg sifil yn UWIST. Bu'n chwarae dros glwb Pontypwl fel prop pen-tyn. Gyda Bobby Windsor a Charlie Faulkner, roedd yn ffurfio'r "Rheng flaen Pontypwl" a anfarwolwyd yng nghân Max Boyce, ac a elwid hefyd y "Viet Gwent".
Enillodd ei gap gyntaf dros Gymru yn erbyn Ffrainc yn 1975 ym Mharis, a sgoriodd gais o 70 llath. Roedd yn rhan allweddol o'r tîm Cymreig a gyflawnodd y Gamp Lawn yn 1976 a 1978. Ymddeolodd o rygbi rhyngwladol yn 1983; roedd ei gêm olaf hefyd yn erbyn Ffrainc ym Mharis.
Aeth ar daith gyda’r Llewod i Seland Newydd yn 1977, i Dde Affrica yn 1980 a Seland Newydd eto yn 1983. Chwaraeodd mewn deuddeg gêm brawf yn olynol i'r Llewod.
Llyfryddiaeth
golygu- Graham Price (1984) Price of Wales (Willow Books) ISBN 0-00-218066-9