Agor y brif ddewislen

Grwp Islamiaethol milwriaethus yn Nigeria yw Boko Haram (enw llawn Arabeg: جماعة اهل السنة للدعوة والجهاد Jamā'a Ahl al-sunnah li-da'wa wa al-jihād). Ystyr yr enw Hausa 'Boko Haram' yw "Mae addysg Orllewinol yn bechod". Mae'r mudiad jihadaidd arfog hwn yn gweithredu yn ngogledd-ddwyrain Nigeria yn bennaf gyda phresenodleb yng ngogledd Camerŵn hefyd.

Mae'n fudiad Islamaidd sy'n gwrthwynebu'n gryf cyfraith seciwlar (h.y. "Gorllewinol") a phob dylanwad o'r Gorllewin. Cafodd ei sefydlu gan Mohammed Yusuf yn 2001. Mae'n ceisio sefydlu cyfraith sharia yn Nigeria. Ers ei sefydlu mae Boko Haram wedi ymosod ar Gristnogion ac wedi gwneud sawl ymosodiad terfysgol, yn cynnwys bomio eglwysi a herwgipio merched ysgol Chibok yn 2014.[1][2]

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu