Cyfundrefn Al-Qaeda yn y Maghreb Islamaidd
Cyfundrefn Al-Qaeda yn y Maghreb Islamaidd (Organisation al-Qaïda au Maghreb islamique) yw enw newydd y Groupe salafiste pour la prédication et le combat (Arabeg: الجماعة السلفية للدعوة والقتال "Y Grŵp Salaffaidd dros Bregethu ac Ymladd"), neu GSPC, a sefydlwyd yn Algeria yn ystod y rhyfel cartref yno. Ymddengys fod y newid enw i'w ddyddio i 25 Ionawr 2007. Er bod y grŵp yn galw eu hunain yn Salaffiaid, nid yw arweinwyr ac athroniaeth y gangen uniongred hon o Islam Sunni yn gefnogol i derfysgaeth ond yn hytrach yn ei chondemnio. Mae'r mudiad wedi honni cyfrifoldeb am ymosodiadau terfysgol ym Moroco ac Algeria yn y gorffennol ac yn ddiweddar mae ei faes gweithredu wedi ehangu i gynnwys Tiwnisia.
Enghraifft o'r canlynol | mudiad terfysgol, sefydliad arfog |
---|---|
Idioleg | Salafi jihadism, Islamiaeth |
Rhan o | Al-Qaeda |
Dechrau/Sefydlu | 2007 |
Pennaeth y sefydliad | Emir of al-Qaeda in the Islamic Maghreb |
Rhagflaenydd | Salafist Group for Preaching and Combat, Armed Islamic Group of Algeria |
Pencadlys | Kabylie |
Enw brodorol | القاعدة في بلاد المغرب الإسلامي |
Gwladwriaeth | Algeria, Mali |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gweithrediadau yn Nhiwnisia
golyguYn ôl rhai ffynonellau, mae'r grŵp yn gysylltiedig wrth rai digwyddiadau difrifol yn Nhiwnisia ar ddiwedd 2006 a dechrau 2007, yn cynnwys ymladd rhwng y lluoedd diogelwch a grŵp o derfysgwyr ar ymylon Soliman, i'r de-ddwyrain o'r brifddinas, Tiwnis.
Ar 3 Ionawr 2007, gorffenodd cyrch gan lluoedd diogelwch Tiwnisia yn erbyn pobl a ddisgrifwyd fel "terfysgwyr Islamaidd" mewn saethu a cholli bywydau. Roedd hyn yn sioc i bobl y wlad, sydd wedi bod yn gymharol rydd o ddigwyddiadau o'r fath yn y gorffennol. Mae adroddiadau am y digwyddiad yn gymysg. Yn ôl rhai ffynonellau roedd y grŵp yn cynnwys sawl dyn o Algeria a chredir gan rai fod cysylltiad â Chyfundrefn Al-Qaeda yn y Maghreb Islamaidd (neu'r GSPC Salafaidd). Ond yn ôl ffynhonnell arall, anwysddogol, roeddynt i gyd yn Diwnisiaid ifainc tua 20-25 oed. Roeddent yn bwriadu ymosod ar lysgenhadaethau Israel a'r Unol Daleithiau a sawl targed arall yn Nhiwnis ac roedd ganddynt nifer o arfau, yn cynnwys drylliau kalashnikov a rocedi. Bu brwydr fawr mewn fila ar gyrion Soliman a lladdwyd tua dwsin o'r terfysfgwyr gan y llu o heddweision ac asiantau diogelwch a amgylchynasai'r adeilad.[1]
Ar 22 Chwefror 2008, herwgipwyd dau dwrist Awstriaidd yn anialwch De Tiwnisia gan aelodau o'r grŵp. Dan yr enw Groupe salafiste pour la prédication et le combat, datganwyd eu bod yn barod i ryddhau'r twristiaid yn gyfnewid am "garcharorion gwleidyddol" sy'n cael eu dal gan awdurdodau Algeria. Rhybuddient hefyd na fyddai twristiaid gorllewinol yn ddiogel yng ngwledydd y Maghreb bellach, sef yn benodol ym Moroco, Tiwnisia ac Algeria (ond prin iawn yw'r twristiaid sy'n mentro i'r olaf). Ar 15 Mawrth 2008 roedd cynrychiolwyr awdurdodau Awstria yn ceisio bargeinio am ryddhau'r twristiaid, sy'n cael eu dal mewn tref yng ngogledd Mali, fe ymddengys.[2]
Pe wireddwyd bygythiad y grŵp, sydd wedi newid ei enw yn ôl i "Y Grŵp Salaffaidd dros Bregethu ac Ymladd", fe ymddengys, gallai'r effaith ar economi a sefydlogrwydd gwleidyddol Moroco a Thiwnisia fod yn ddifrifol. Mae canran uchel o bobl yn Nhiwnisia yn enwedig, sydd yn dioddef lefel pur sylweddol o ddiweithdra, yn dibynnu ar dwristiaeth am fywoliaeth. Amlwg mai bwriad tymor hir y terfysgfwyr yw creu anghydfod ac ansefydlogrwydd yn y Maghreb a dymchwel y llywodraethau yno sy'n gyfeillgar tuag at y gorllewin, yn arbennig llywodraeth seciwlar led-ddemocrataidd Tiwnisia. Ychydig iawn o sôn am y datblygiadau hyn sydd wedi bod ym Mhrydain, efallai am fod miloedd o bobl o'r DU yn mynd ar eu gwyliau i Foroco a Thiwnisia. Ni chyfeirir at y digwyddiad diweddaraf yng nghyfryngau Tiwnisia chwaith.