Herwgipio merched ysgol Chibok, 2014

Fin nos y 14–15 Ebrill 2014, herwgipiwyd 276 o ferched ifanc o ysgol uwchradd y wladwriaeth yn nhref Chibok, Nigeria.[1] Derbyniodd y grŵp Islamiaethol Boko Haram y cyfrifoldeb am y weithred; mae'r grŵp wedi'i sefydlu yng ngogledd-ddwyrain y wlad.

Rhieni'r merched a herwgipiwyd
Dyddiad15 Ebrill 2014 (2014-04-15)
Cyfesurynnau10°51′57″N 12°50′49″E / 10.865833°N 12.846944°E / 10.865833; 12.846944
Canlyniad276 o fyfyrwyr benywaidd wedi'u cipio gan wrthryfelwyr terfysgaidd islamaidd
Ar goll219
DrwgdybirBoko Haram

Ystyr yr enw Hausa 'Boko Haram' yw "Mae addysg Orllewinol yn bechod". Mae Boko Haram wedi targedu ysgolion ers 2010, gan ladd cannoedd o ddisgyblion. Dywedodd llefarydd ar ran y grŵp y byddent yn parhau i weithredu fel hyn, hyd nes y rhydd Llywodraeth Nigeria'r gorau i "ymyrryd gyda hawl pobl i dderbyn addysg Islamaidd, draddodiadol". Oherwydd yr ymgyrch hon gan y terfysgwyr mae o leiaf 10,000 o bobl ifanc heb dderbyn addysg dros y blynyddoedd diwethaf.[2] Cred y terfysgwyr hefyd mai dim ond bechgyn ddylai dderbyn addysg, ac mai lle'r ferch yw bod adref yn coginio ac yn cael cyfathrach rywiol.[3]

Dwyshaodd yr ymosodiadau yn 2014. Yn Chwefror lladdwyd dros 100 o Gristnogion (dynion) ym mhentrefi Doron Baga a Izghe,[4] a lladdwyd 59 o fechgyn mewn coleg preswyl yng ngogledd-ddwyrain y wlad.[5] Ym mis Mawrth ymosodwyd ar wersyll milwrol Giwa gan ryddhau nifer o'u cyd-derfysgwyr, a lladdwyd 88.[4][6] Yn 2014, credid fod Boko Haram wedi lladd cyfanswm o 4,000 o bobl,[4] a'u bod yn derbyn hyfforddiant gan gangen o al-Qaeda,[7] sef Cyfundrefn Al-Qaeda yn y Maghreb Islamaidd.

Adwaith cartref golygu

Hyd at Ebrill 2015, doedd awdurdodau Nigeria ddim yn gwybod ym mhle roedd y merched yn cael eu cadw. Credir eu bod wedi eu gorfodi i droi i grefydd Islam,[8] neu i briodi aelodau o Boko Haram, gyda "phris" amdanynt o oddeutu 2,000 y pen ($12.50/£7.50).

Cafwyd hyd i ddwy ferch ar y 30ain o Fai yn ardal Baale, y ddwy mewn cyflwr eitha truenus ac wedi'u clymu i goeden.[9][10] Dywedodd y pentrefwyr lleol i aelodau o Boko Haram adael y merched ac iddynt ladd 4 arall. Yn Ebrill 2015 roedd 223 yn dal ar goll.[10] Ers hynny mae nifer o'r merched wedi'u canfod, ond y rhan fwyaf yn parhau ar goll.

Adwaith rhyngwladol golygu

Mae'r ffaith na chafwyd hyd i'r merched wedi achosi protestiadau a beirniadaeth ryngwladol reit llym. Ar 29 Mai dywedodd un o gynrychiolwyr byddin y wlad fod y gwasanaethau diogelwch wedi darganfod y merched a herwigipiwyd ond y byddai ceisio eu hachub yn golygu y byddai llawer iawn ohonynt a sifiliaid eraill yn marw.[11]

Mae cymorth wedi'i gynnig gan nifer o wledydd gan gynnwys Iran, Ffrainc, y Deyrnas Gyfunol, Unol Daleithiau America, Tsieina a Chanada. Pasiodd yr Undeb Ewropeaidd gynnig ar 17 Gorffennaf 2014, yn "galw am ryddhau'r merched ar unwaith."[12]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Nigeria says 219 girls in Boko Haram kidnapping still missing". Fox News. 26 June 2014. Cyrchwyd 30 June 2014.
  2. McElroy, Damien (6 July 2013). "Extremist attack in Nigeria kills 42 at boarding school". The Daily Telegraph. Cyrchwyd 3 Hydref 2013.
  3. Aronson, Samuel (28 Ebrill 2014). "AQIM and Boko Haram Threats to Western Interests in the Africa's Sahel". Combating Terrorism Center Sentinel (CTC), West Point. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-13. Cyrchwyd 2015-05-01.
  4. 4.0 4.1 4.2 Dorell, Oren (21 April 2014). "Terrorists kidnap more than 200 Nigerian girls". USA Today. Cyrchwyd 23 April 2014.
  5. "Boko Haram kills 59 children at Nigerian boarding school". The Guardian. 25 Chwefror 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-26. Cyrchwyd 6 Mawrth 2014.
  6. Perkins, Anne (23 Ebrill 2014). "200 girls are missing in Nigeria – so why doesn't anybody care?". The Guardian. Cyrchwyd 23 Ebrill 2014.
  7. Abubakar, Aminu; Levs, Josh (5 May 2014). "'I will sell them,' Boko Haram leader says of kidnapped Nigerian girls". CNN. Cyrchwyd 5 May 2014.
  8. Howard LaFranchi (5 Mai 2014). "What role for US in efforts to rescue Nigeria's kidnapped girls?". CSMonitor. Cyrchwyd 9 Mai 2014.
  9. #BringBackOurGirls: Two Chibok Girls Raped And Left To Die In Sambisa Forest By Boko Haram. Archifwyd 2015-01-29 yn y Peiriant Wayback. The Paradigm; 19 Mai 2014.
  10. 10.0 10.1 Grill, Bartholomaus and Selander, Toby (30 Mai 2014) The Devil in Nigeria: Boko Haram's Reign of Terror Der Spiegel English edition, Adalwyd 1 Mehefin 2014
  11. "Nigeria army 'knows where Boko Haram are holding girls'". BBC News. 26 Mai 2014. Cyrchwyd 27 May 2014.
  12. "European Parliament calls for immediate and unconditional release of Chibok girls". News Africa. 17 Gorffennaf 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-26. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2014.