Mae Bolddawns yn ddull o ddawns Arabaidd, yn wreiddiol o’r Aifft. [1] Mae’r enw yn dod o’r Ffrangeg ‘Danse du ventre’. Enwau eraill yw ‘dawns ddwyreiniol’ a ‘raks sharqi’. Mae bolddawns wedi bod yn ddawns gymdeithasol yn y dwyrein canol ers canrifoedd. Yn yr Aifft mae hi wedi bod yn rhan o ddathlu priodasau. Defnyddir 2 fath o gerddoriaeth ar gyfer bolddawns, Baladi a Shaabi. Mae bolddawns hefyd bod yn adloniant. Dywedir bod teithwyr o India wedi danwsio er mwyn ennill pres, yn defnyddio eu traddodiadau eu hunain, ond yn dysgu traddodiadau’r Aifft a Thwrci hefyd.[2]

Bolddawns
Enghraifft o'r canlynolmath o ddawns Edit this on Wikidata
MathMiddle Eastern dance Edit this on Wikidata
Dechrau/SefydluMileniwm 5. CC Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Dawnswyr yng Ngŵyl Werin Genedlaethol Awstralia

Mae teithwyr wedi dod o India trwy Affganistan ac Iran i Dwrci a’r Aifft, yn dod a’u traddodiadau ac wedi cael effaith ar folddawns ers y 15g.. Chengis oedd enw y dawnswyr yn Nhwrci. Gwisgent feliau a defnyddient symbalau bysedd.[2]

Yr Aifft

golygu

Enw perfformwyr yn yr Aifft oedd ghâwazî. Roedd dawnswyr gwrywaidd a benywaidd. Buasent yn dawnsio o flain tai coffi, ac yn ystod gorymdeithiau. Defnyddient gwiail a chleddyfau. Daeth eu ddawns yn rhan o traddodiad dawns yr Aifft, a daeth cyllid o’r trethi talwyd gan y ghâwazî. Agorwyd clybiau nos yn 20g,ac oedd eu cynulleidfeydd yn bennaf twristiaid o Ewrop. Addaswyd yr arddull o ddawnsio, a ganwyd bolddawns raqs sharqi.

Roedd clwb nos enwog yn Cairo yn y 1920au, lle addaswyd dawns ar gyfer llwyfan, yn cynnwys coreograffi a pherfformiadau gan grwpiau o ddanswyr. Dylanwadwyd gan ddawns orllewinol, megis bale a dawns neuadd. Datblygwyd y wisg sydd yn arferol hyd at heddiw ar gyfer dawns bol hefyd.

Oherwydd arddangosfeydd rhyngwladol, megis Ffair y Byd Chicago ym 1893, taenwyd dawns bol i’r gwledydd gorllewinol. Daeth dawnswraig Little Egypt yn enwog yn ystod y ffair yn Chicago. Ymddangoswyd dawns bol yn ffilmiau Hollywood, ac oedd yn ddylanwad ar Fwrlesg yn y 1800au.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Fraser, Kathleen W. (2014-10-31). Before They Were Belly Dancers: European Accounts of Female Entertainers in Egypt, 1760-1870. McFarland. ISBN 9780786494330.
  2. 2.0 2.1 2.2 Tudalen hanes ar wefan worldbellydance
  Eginyn erthygl sydd uchod am ddawns. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.