Ffrwydradau Llundain 7 Gorffennaf 2005

Cyfres o ffrwydradau bom cydamserol a darodd system cludiant cyhoeddus Llundain yn ystod cyfnod awr frys y bore oedd ffrwydradau Llundain 7 Gorffennaf 2005. Am 8:50 BST 7 Gorffennaf 2005, ffrwydrodd dri bom o fewn 50 eiliad o'i gilydd ar dri trên London Underground. Ffrwydrodd bedwaredd fom ar fws bron i awr yn hwyrach am 9:47 y.b. yn Sgwâr Tavistock. Arweiniodd y ffrwydradau at chwalfa ddygn o isadeiledd trafnidiaeth a thelathrebu y ddinas am weddill y diwrnod.

Ffrwydradau Llundain 7 Gorffennaf 2005
Enghraifft o'r canlynolymosodiad gan hunanfomiwr Edit this on Wikidata
Dyddiad7 Gorffennaf 2005 Edit this on Wikidata
Lladdwyd56 Edit this on Wikidata
LleoliadTavistock Square, Liverpool Street tube station, Edgware Road tube station, Piccadilly Line Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthCamden Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Lleoliad ffrwydradau Llundain

Lladdwyd 56 o bobl yn yr ymosodiadau, gan gynnwys y pedwar hunan-fomiwr, ac anafwyd 700. Hyn oedd yr ymosodiad terfysgol mwyaf difrifol yn y Deyrnas Unedig ers i Pan Am Flight 103 cael ei fomio dros dref Lockerbie, yr Alban, yn 1988 (a wnaeth lladd 270), a'r cyrch bomio a laddodd y fwyaf yn Llundain ers yr Ail Ryfel Byd.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. "7/7 Anniversary: UK's Risk of Terror Attack Higher Now than Days of London Bombings". Yorkshire Post (yn Saesneg). 4 Gorffennaf 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Medi 2018. Cyrchwyd 29 Ebrill 2017.

Gweler hefyd golygu