Mae Bond hydrogen yn fath o ryngweithiad rhyngfoleciwlaidd pan geir atyniad electrostatig rhwng dau grwp pegynol: atomau hydrogen, cyfalent yn bondio gydag atom hynod o electronegatif, megis nitrogen.[1]

Bond hydrogen
Mathbondio cemegol, association, dipole-dipole interaction Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Sefydlogrwydd bond hydrogen
Model o fondiau hydrogen mewn dŵr.

Ei roi mewn geiriau eraill, mae'r ryngweithiad yn digwydd pan fo atom o hydrogen ynghlwm wrth atom electronegatif mewn un moleciwl ac atom electronegatif mewn moleciwl arall.

Cefndir golygu

Mae bondiau hydrogen ar eu cryfaf pan fo'r atomau electronegatif yn rhai nitrogen (N), ocsigen (O) neu fflworin (F) ond gallant hefyd ddigwydd gydag elfennau llai electronegatif megis sylffwr. Bondio hydrogen yw'r rhyngweithiad rhyngfoleciwlaidd sy'n cysylltu moleciwlau dŵr (gw. y diagram ar y dde).

Gall y bondiau hydrogen ddigwydd hefyd rhwng moleciwlau (intermolecular) neu rhwng rannau gwahanol o un foleciwl (intramolecular).[2] Yn ddibynnol ar geometreg a'r amgylchedd, mae cynnwys egni rhydd y bond hydrogen rhwng 1 a 5 kcal/mol. Mae hyn tipyn uwch na rhyngweithiad van der Waals ond yn wanach na bondiau cofalent neu fondiau ionig. Gall ddigwydd mewn moleciwlau anorganaidd (e.e. dŵr) neu foleciwlau organig (e.e. DNA a phrotein).

Hanes golygu

Yn ei lyfr The Nature of the Chemical Bond mae Linus Pauling yn rhoi'r clod i T. S. Moore a T. F. Winmill am gyfeirio at y bond hydrogen am y tro cyntaf, a hynny yn 1912.[3][4]

Cyfeiriadau golygu

  1. colegcymraeg.ac.uk; Archifwyd 2017-07-29 yn y Peiriant Wayback. 'Termau Addysg Uwch' y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Adalwyd 21 Mawrth 2017.
  2. International Union of Pure and Applied Chemistry|IUPAC, Compendium of Chemical Terminology, ail argraffiad ("Gold Book") (1997). Ceir fersiwn wedi'i gywiro, arlein ar:  (2006–) "hydrogen bond".
  3. Pauling, L. (1960). The nature of the chemical bond and the structure of molecules and crystals; an introduction to modern structural chemistry (arg. 3rd). Ithaca (NY): Cornell University Press. t. 450. ISBN 0-8014-0333-2.
  4. Moore, T. S.; Winmill, T. F. (1912). "The state of amines in aqueous solution". J. Chem. Soc. 101: 1635. doi:10.1039/CT9120101635. https://archive.org/details/sim_journal-of-the-chemical-society_1912_101_0/page/1635.