Borgarnes
Mae Borgarnes (IPA:ˈpɔrkarˌnɛs) (Islandeg: penrhyn y graig) yn dref a leolir ar benrhyn ar lannau'r Borgarfjörður ar ynys Gwlad yr Iâ a dyma'r dref fwyaf ym mhwrdeisdref Borgarbyggð gyda phoblogaeth o tua 2,000 person. Mae'n gyffordd bwysig yng Ngwlad yr Iâ ac yn gweithredu fel porth i Barc Cenedlaethol Snaefellsnes. Mae'r brifddinas, Reykjavik 69 km i'r de o ganol Borgarnes. Mae ail bontfwyaf Gwlad yr Iâ, y Borgarfjarðarbrú, yn cysylltu'r dref gyda Reykjavik.
Math | dinas |
---|---|
Poblogaeth | 2,181 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Borgarbyggð |
Gwlad | Gwlad yr Iâ |
Cyfesurynnau | 64.5431°N 21.9125°W |
Gorolwg
golyguMae'r dref yn agos i 4 fforest a weinyddir gan Awdurdod Coedwigaeth Gwlad yr Iâ.
Hanes
golyguMae'r ardal wedi ei phoblogi ers amser y gwladych a'r enw ar yr anedd yn wreiddiol oedd Digranes.[1]
Caiff y dref a'r ardal eu henwi yn Llyfr y Gwladychu, y Landnámabók a Sagas y wlad.
Ystyrir Borgarnes fel tref enedigol y bardd a'r Saga arwr, Egill Skallagrímsson, a ceir sawl cerflyn iddo. Yr un amlycaf yw'r cerflyn iddo gan Ásmundur Sveinsson sy'n sefyll o flaen pentrefan Borg á Mýrum, gan mai yno, yn ôl yr hanes, yr oedd yn byw. Mae anturiaethau Egil yn cael eu cofnodi yn saga Egils. Ei dad, Skallagrímur, oedd un o'r gwladychwyr cyntaf yn ôl y Landnámabók ac roedd ei ddylanwad ar yr ardal yn gryf.
Mae tref Borgarnes gyfoes ei hun yn seiliedig ar ei thwf fel canolfan fasnachol a phrosesu pysgod. Adeiladwyd y tai cyntaf yn ardal Englendingavik gan yr Albanwr, James Richie yn 1857 i brosesu eog[2]. Ceir sawl afon eog yn ardal Borgarnes a'r rhai mwyaf adnabyddus yw Norðurá (Hvítá) a Grímsá.[3]
O 1929 ymlaen, adeiladwyd harbwr yn Borgarnes. Daeth yn ganolfan bwysig. Hyd nes adeiladu'r bont, tynnwyd y llong i Borgarnes ac oddi yno mewn car.
Eglwys Borgarnes
golyguMae'r eglwys y pentref yn dyddio o 1959, cyn hynny defnyddiwyd eglwys Borg Mýrum gan y bobl Borgarnes.
Statws Cyfansoddiadol
golyguArferai Borgarnes fod yn fwrdeistref annibynnol, yn Islandeg, Borgarnesbær. Ond ar 11 Mehefin, 1994 ffurfiwyd un bwrdeisdref newydd gan uno tri cymuned wledig Norðurárdalur (Norðurárdalshreppur) Stafholtstunga (Stafholtstungnahreppur) a Hraun (Hraunhreppur) i greu gymuned newydd Borgarbyggð.
Gefailldrefi
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Íslandshandbókin. 1. bindi. 1989, bls. 127
- ↑ name="Vegahandbókin-S55">Landmælingar Íslands (Hrsg.): Vegahandbókin. 2007, S. 55
- ↑ vgl. Landesvereinigung der Anglervereine http://angling.is/en/waters/salmon-rivers/on-the-west-coast/6339/ Archifwyd 2018-02-14 yn y Peiriant Wayback Zugriff: 27. Mai 2010