Buddug (Boudica)

brenhines llwyth Celtaidd yr Iceni
(Ailgyfeiriad o Boudica)

Brenhines arwrol llwyth Celtaidd yr Iceni, a flodeuai yn y ganrif gyntaf yn ne-ddwyrain Lloegr, oedd Buddug (hefyd Boudica, Boudicca neu Boadicea).

Buddug
Cerflun 1855 efydd o Buddug a'i merched yn Captains Walk, Aberhonddu. Cerflun gan John Thomas.
Ganwydc. 30 Edit this on Wikidata
Britannia Edit this on Wikidata
Bu farw61, 62 Edit this on Wikidata
o gwenwyniad Edit this on Wikidata
Britannia Edit this on Wikidata
Galwedigaetharweinydd milwrol, llywodraethwr, brenhines cyflawn, gwrthryfelwr milwrol Edit this on Wikidata
Swyddbrenhines Edit this on Wikidata
PriodPrasutagus Edit this on Wikidata
Engrafiad o ddarlun dychmygol (arlunydd anhysbys) o Fuddug, â'i merched yn ei hymyl, yn annerch ei byddin (o olygiad Rhys Gwesyn Jones o Drych y Prif Oesoedd gan Theophilus Evans, tua 1850)





Cwymp Prasutagas golygu

Roedd Britannia, y rhan o Brydain a oedd dan reolaeth Rhufain, yn cael ei llywodraethu gan y rhaglaw (y 'procuradur') Rhufeinig llygredig Catus yn enw y llywodraethwr Suetonius Paulinus, a oedd yng ngogledd Cymru yn brwydro yn erbyn y derwyddon ym Môn. Pan fu farw Prasutagas, gŵr Buddug, dechreuodd Catus anrheithio yr Iceni a'u tiroedd. Yn O.C. 61 cipiodd Catus Fuddug a'i ddwy ferch ifanc a'u fflangellu yn gyhoeddus ac yna eu treisio.

Gwrthryfel Buddug golygu

O ganlyniad i hyn, cododd yr Iceni mewn gwrthryfel yn erbyn y Rhufeiniaid. Dan arweiniad Buddug, a oedd yn rhyfelwraig ddewr, gorchfygodd yr Iceni y nawfed lleng, Legio IX Hispana. Aethant yn eu blaen i gipio Verulamium (St Albans), y brifddinas Rufeinig ar y pryd Camelodunum (Colchester), ynghyd â porthladd Londinium (Llundain). Brysiodd Suetonius Paulinus a'i fyddin yn ôl o Fôn. Roedd ganddo fyddin o tua deng mil o wŷr: Legio XIV Gemina, rhan o Legio XX Valeria Victrix a rhai milwyr cynorthwyol. Cyfarfu â Buddug a'i llu ger High Cross ar Stryd Watling a bu brwydr mawr. Ymladdodd yr Iceni yn ffyrnig ond, er bod ganndynt fantais sylweddol o ran eu nifer roedd y llengwyr Rhufeinig yn rhy ddisgybliedig iddynt. Ffoes Buddug a gweddillion ei byddin adref. Ymddengys ei bod wedi lladd ei hun yno yn hytrach na dioddef y gwarth o weld ei llwyth a'i theyrnas yn cael eu hanreithio.

Dathliad ddiwylliannol golygu

Llenyddiaeth golygu

Yn y 18g, dan ddylanwad Rhamantiaeth a'r diddordeb newydd mewn popeth Celtaidd, darganfuwyd Buddug o'r newydd a thyfodd yn ffigwr arwrol poblogaidd. Ceir pennod arbennig o ddiddorol amdani yn 'Drych y Prif Oesoedd' (1716 a 1740), llyfr hanes poblogaidd hynod a dylanwadol Theophilus Evans. Mabwysiadwyd Buddug gan y Saeson dan yr enw Boadicea yn Oes Fictoria (Buddug arall) fel math o arwres genedlaethol Brydeinig.

Cerfluniau golygu

Yn 1912 cytunodd y diwydiannwr a'r gwleidydd, D.A. Thomas i ariannu cyfres o gerfluniau ar gyfer y Neuadd Farmor yn adeilad newydd Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Rhoddwyd y dewis i'r Cymry mewn cystadleuaeth a bu James Havard Thomas yn cynorthwyo D.A. Thomas a thîm comisiynu bach yn y dewis terfynol o bobl a cherflunwyr. Cafodd y cynllun ei ddadorchuddio’n swyddogol gan David Lloyd George ym mis Hydref 1916.[1]

Llyfryddiaeth golygu

  • Ian Andrews, Boudicca's Revolt (Llundain, 1972)
  • Graham Webster, Boudicca: The British Revolt Against Rome (Llundain, 1978)

Cyfeiriadau golygu

  1. "Statue of Buddug - Boadicea".